1. Nid i ni Arglwydd, nid i ni,y dodi y gogonedd,Ond i’th enw dy hun yn hawdd,er mwyn dy nawdd a’th wiredd.
2. Pa’m y dwedant am danat tiy cenedlaethi estron:A thrwy edliw hynny yn fwy,ple’y mae’u Duw hwy yr awron?
3. Sef ein Duw ni mae yn y nef,lle y gwnaeth ef a fynnodd.
4. Eu delwau hwy, aur, arian yn’,a dwylo dyn a’i lluniodd.
5. Safn heb draethu: llun lygaid glân,y rhai’n ni welan ronyn:
6. Trwyn heb arogl, clustiau ar lledheb glywed, y sydd ganthyn.
7. Ac i bob delw y mae dwy lawheb deimlaw, traed heb symyd:Mae mwnwgl iddynt heb roi llais,fal dyna ddyfais ynfyd.
8. Fel hwyntwy ydyw’ rhai a’i gwnant,a’r rhai a gredant iddynt:Am hyn ni ddylai neb drwy gredroi mo’i ymddiried arnynt.
9. O Israel, dod ti yn rhwyddar yr Arglwydd dy hollfryd,Ef yw eu nerth a’i dwg i’r lan,eu porth a’i tarian hefyd.
10. O ty Aron, dod tithau’n rhwydd,ar yr Arglwydd dy hollfryd:Ef yw eu nerth a’i dwg i’r lan,eu porth a’i tarian hefyd.
11. Rhai a ofnwch yr Arglwydd Ion,rhowch arno’ch union hollfryd.Efe yw’r neb a’ch dwg i’r lan,eich porth a’ch tarian hefyd.
12. Duw nef a’n cofiodd, ac i’n plithfo roes ei fendith rhadlon:I dy Israel rhydd ei hedd,ac unwedd i dy Aaron.