Hen Destament

Salm 113:1-8 Salmau Cân 1621 (SC)

1. Chwi weision Duw molwch yr Ion,Molwch ei enw â llafar don,

2. bendigaid fytho ei enw ef.

3. O godiad haul hyd fachlud dydd,Mawr enw yr Ion moliannus fydd,yn y byd hwn, ac yn y nef.

4. Derchafodd Duw uwch yr holl fyd:A’i foliant aeth uwch nef i gyd,

5. pwy sy gyffelyb i’n Duw ni?Yr hwn a breswyl yn y nef,

6. I’r ddaear hon darostwng ef,gwyl ef ein cam, clyw ef ein cri.

7. Yr hwn sy’n codi’r tlawd o’r llwch:A’r rheidus o’i ddiystyrwch,

8. iw gosod uwch pennaethiaid byd.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 113