1. Chwi weision Duw molwch yr Ion,Molwch ei enw â llafar don,
2. bendigaid fytho ei enw ef.
3. O godiad haul hyd fachlud dydd,Mawr enw yr Ion moliannus fydd,yn y byd hwn, ac yn y nef.
4. Derchafodd Duw uwch yr holl fyd:A’i foliant aeth uwch nef i gyd,
5. pwy sy gyffelyb i’n Duw ni?Yr hwn a breswyl yn y nef,