Hen Destament

Salm 109:8-19 Salmau Cân 1621 (SC)

8. Bo ei oes yn fer, ac yn ddilwydd,a’i swydd arall iw chymryd.

9. Poed yn ymddifaid y bo ei blant,a’i weddw yn fethiant hefyd.

10. A boed ei blant yn crwydro byd,i gymryd mân gerdodau:A cheisiant hyn rhyd dyrys dir,lle bytho hir eu prydiau.

11. Yn rhwyd y ceisiad ei dda syrth,ei lafur pyrth ddieithriaid:

12. Na ddel iddo nawdd am ei fai,na chwaith i’w rai ymddifaid.

13. Doed distryw dial ar ei hil,a’i eppil a ddileer,

14. Am bechodau ei dâd a’i famy caiff ef lam ryw amser.

15. A bydded hyn i gyd gar bronyr Arglwydd gyfion farnwr,Yr hwn a’i torro, fel na bomwy gofio eu anghyflwr.

16. Erioed ni cheisiodd wneuthur hedd,na thrugaredd i ddyn gwan,Ond erlid tlawd ar isel radd,a cheisio lladd y truan.

17. Hoffodd ffelldith a hi a ddaeth,ac fel y gwnaeth did iddo,Casâodd fendith, ac ni chai,ond pell yr ai oddiwrtho.

18. Gwisgodd felldith fel dillad gwr,a daw fel dwr iw galon,Fel olew doed iw esgyrn fo,hyd oni chaffo ddigon.

19. A’r felldith bid iw gylch yn dyn,fel yn ddilledyn iddo:A'i gwisgo hi bid iddo’n dasg,fel gwregys gwasg am dano.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 109