Hen Destament

Salm 109:8-12 Salmau Cân 1621 (SC)

8. Bo ei oes yn fer, ac yn ddilwydd,a’i swydd arall iw chymryd.

9. Poed yn ymddifaid y bo ei blant,a’i weddw yn fethiant hefyd.

10. A boed ei blant yn crwydro byd,i gymryd mân gerdodau:A cheisiant hyn rhyd dyrys dir,lle bytho hir eu prydiau.

11. Yn rhwyd y ceisiad ei dda syrth,ei lafur pyrth ddieithriaid:

12. Na ddel iddo nawdd am ei fai,na chwaith i’w rai ymddifaid.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 109