Hen Destament

Salm 109:20-31 Salmau Cân 1621 (SC)

20. A hyn gan Dduw a gaf yn dâl,i’r gelyn gwamal enbyd:A ddweto neu a wnelo gam,neu niwed am fy mywyd.

21. Dithau Dduw er mwyn d’enw gwna,herwydd mai da d’ymwared:Gwna dy drugaredd a myfi,a bryssia di i’m gwared.

22. O herwydd tlawd a rheidus wyf,a dirfawr glwyf i’m calon,

23. Symudiad cyscod a fai’n ffo,hyn er na welo dynion.Mor ansefydlog yw fy’ stâd:a’r mudiad geiliog rhedyn

24. Fy nghnawd yn gul, fy ngliniau’n wana siglan o dra newyn,

25. Gwarth wyf i’m câs yn fy ngwael ddrych,a hwynt wrth edrych arnafA’m diystyrent dan droi tro,a than bensiglo attaf.

26. Cymorth di fi Arglwydd fy Nuw,cadw fi’n fyw â’th nodded:

27. Fel y gwyper mai gwaith dy law,yw’r lles a ddaw i’m gwared.

28. Melldithiant nac eiriechant hwy,dod fendith fwy i minnau,Bid gwarth i’m gwrthwynebwyr câs,gorfoledd i’th wâs dithau.

29. A gwarth a gwradwydd gwisger hwy,a fwyfwy y del attynt:A mantell laes o gwilydd mawr,gwisg di hyd lawr am danynt.

30. Ond fi, gan ddiolch i’m Ior mau,â’m genau mawl a ganaf:Ac a rof glod iw enw cu,lle bytho’r llu yn amlaf.

31. O herwydd ar ddeheulaw’r tlawdy saif ddydd brawd yn gefnog:A gadw ei enaid ef yn gu,rhag ei farnu yn euog.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 109