Hen Destament

Salm 108:2-8 Salmau Cân 1621 (SC)

2. Deffro dafod, a deffro dant,a chân ogoniant beunydd:Y nabl ar delyn yn gytun,deffrof fy hun ar laf-ddydd.

3. Mawl ytty f’Arglwydd, pan deffrof,a rof ymmysc y bobloedd:A chlodfori dy enw a wnaf,lle amlaf y cenhedloedd.

4. Cans cyrhaeddyd y mae dy râs,hyd yn nheyrnas nefoedd.A’th wirionedd oi hyd at lenyr wybren a’i therfynoedd.

5. Ymddercha Dduw y nef uwchlaw,oddiyno daw d’arwyddion.A bydded dy ogoniant ary ddayar a’i thrigolion.

6. Fal y gwareder drwy hon hwyl,bob rhai o’th anwyl ddynion.O achub hwynt â’th law ddehau,a gwrando finnau’n ffyddlon.

7. Yn ei sancteiddrwydd dwedodd Duwllawen yw fy nghyfamod,Mi a rannaf Sichem rhyd y glyn,mesuraf ddyffryn Succod.

8. Myfi piau y ddwy dretâd,sef Gilead a Manasse.Ac Ephraim yw nerth fy mhen,a Juda wen fy neddf-le.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 108