40. Eu dirmyg ar y beilchion troes,ac ef a’i rhoes i grwydroMewn drysni heb lun ffordd i’w chael,lle buant wael eu gortho.
41. Yna rhoes y tlawd i well fri,dug o’r trueni allan,Gan lwyddo ei deulu, a’i holl blaid,fel defaid wrth y gorlan.
42. Y rhai cyfiawn a welant hyn,a chanthyn bydd yn hyfryd:A’r enwir ceuir ei ddwy enar ei gynfigen fowlyd.
43. Pa rai sy ddoeth i ddeall hyn,fe roddir iddyn wybodFaint yw daioni f’Arglwydd yn’,wrth hyn y cân gydnabod.