Hen Destament

Salm 107:1-4 Salmau Cân 1621 (SC)

1. Molwch yr Arglwydd, cans da yw,moliennwch Dduw ein llywydd,Oblegid ei drugaredd frya bery yn dragywydd.

2. Y gwaredigion canent fawl,i Dduw gerdd nodawl gyson:Y sawl a’ achubwyd, caned hyn,o law y gelyn creulon.

3. A gasglodd o bedwar-ban byd,dowch chwi i gyd-ganeuau.O dir y dwyrain dowch mewn hedd,gorllewin, gogledd, deau.

4. Drwy yr anialwch, wyrdraws hynt,y buasent gynt yn crwydroAllan o’r ffordd: heb dref na llan,lle caent hwy fan i drigo.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 107