Hen Destament

Salm 106:5-14 Salmau Cân 1621 (SC)

5. Fel y gwelwyf, ac y chwarddwyf,wych urddas d’etifeddaeth.Ac y cydganwyf fawl un don,a’th ddewisolion odiaeth.

6. Pechod, camwedd, ac annoethedd,gwnaethom gyda’n tadau:Ef a gaed arnom ormod gwall,heb ddeall dy fawr wyrthiau.

7. Yng wlâd yr Aipht wrth y mor coch,yn gyndyn groch anufydd:Heb gofio amled fu dy râshaeddasom atgas gerydd.

8. Etto er mwyn ei enw ei hun,Duw cun a ddaeth i’n gwared:I beri i’r byd gydnabod hyn,ei fod ef cyn gadarned.

9. Y dyfnfor coch a’i ddyfrllyd wlych,a wnaeth e’n sych â’i gerydd:Trwy ddyfnder eigion aent ar frys,fel mynd rhyd ystlys mynydd.

10. Fel hyn y dug hwynt trwodd draw,o ddwylaw eu caseion:Ac y tywysodd ef ei blanto feddiant eu gelynion.

11. Y deifr a guddiodd yr Aipht ryw,nid oedd un byw heb foddi:

12. Yna y credent iw air ef,a’i gerdd hyd nef ai’n wisgi.

13. Er hyn, tros gof mewn amser byrr,y rhoent ei bybyr wrthiau:Heb sefyll wrth air un Duw Ior,na’i gyngor, na’i ammodau.

14. Ond cododd arnynt chwant a blys,yn nyrys yr anialwch:Gan demptio Duw â rheibus fol,ynghanol y diffeithwch.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 106