Hen Destament

Salm 106:41-48 Salmau Cân 1621 (SC)

41. O’r achos hyn eu rhoddi a wnaethdan bob cenhedlaeth gyndyn,Mewn cyflwr câs dan estron blaid,a’i câs yn feistraid arnyn.

42. Eu gelynion aethant yn ffrom,a’i llaw fu drom a ffyrnig,Felly y darostyngwyd hwy,a mwyfwy fu eu dirmig.

43. Mynych-waredodd Duw ei blant,hwy a’i digiasant yntauA’i cwrs eu hyn: daeth cystudd hiram waith eu henwir feiau.

44. Pan welai arnyn ing na thrais,fo glywai llais eu gweddi,

45. Gan gofio’i air troi nawdd a wnaetho’i helaeth fawr ddaioni.

46. A throi yn drugarog a wnaeth,y gwyr yn gaeth a’i cludynt,Y rhai y buasai’n fawr eu câs:cael mwy cwmwynas ganthynt.

47. Achub innau o blith y rhai’n,i arwain d’enw hyglod,O Arglwydd Dduw, cymell ni’n gui orfoleddu ynod.

48. Duw Israel bendigaid fydd,yn dragywydd Jehoua:A dweded yr holl bobl Amen,molwch Dduw llen gorucha’.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 106