Hen Destament

Salm 106:3-18 Salmau Cân 1621 (SC)

3. A wnel gyfiownder gwyn eu byd,ei farn i gyd a gadwant.

4. O Arglwydd, cofia fi dy wâs,yn ol dy râs i’r eiddod:Ymwel â mi i’m cystudd caeth,â’th iechydwriaeth barod.

5. Fel y gwelwyf, ac y chwarddwyf,wych urddas d’etifeddaeth.Ac y cydganwyf fawl un don,a’th ddewisolion odiaeth.

6. Pechod, camwedd, ac annoethedd,gwnaethom gyda’n tadau:Ef a gaed arnom ormod gwall,heb ddeall dy fawr wyrthiau.

7. Yng wlâd yr Aipht wrth y mor coch,yn gyndyn groch anufydd:Heb gofio amled fu dy râshaeddasom atgas gerydd.

8. Etto er mwyn ei enw ei hun,Duw cun a ddaeth i’n gwared:I beri i’r byd gydnabod hyn,ei fod ef cyn gadarned.

9. Y dyfnfor coch a’i ddyfrllyd wlych,a wnaeth e’n sych â’i gerydd:Trwy ddyfnder eigion aent ar frys,fel mynd rhyd ystlys mynydd.

10. Fel hyn y dug hwynt trwodd draw,o ddwylaw eu caseion:Ac y tywysodd ef ei blanto feddiant eu gelynion.

11. Y deifr a guddiodd yr Aipht ryw,nid oedd un byw heb foddi:

12. Yna y credent iw air ef,a’i gerdd hyd nef ai’n wisgi.

13. Er hyn, tros gof mewn amser byrr,y rhoent ei bybyr wrthiau:Heb sefyll wrth air un Duw Ior,na’i gyngor, na’i ammodau.

14. Ond cododd arnynt chwant a blys,yn nyrys yr anialwch:Gan demptio Duw â rheibus fol,ynghanol y diffeithwch.

15. Rhoes iddynt lenwi ei holl flys,rhoes an-nhycciannys aflwydd.

16. Lle digient Foses wrth eu chwant,ac Aron Sant yr Arglwydd:

17. Egorai’r ddayar yn y man,a llyngcai Ddathan ddybryd:Ac a gynhullodd i’r un llam,holl lu Abiram hefyd.

18. Ac yn ei ddig enynnodd tân,yn fuan yn eu canol:Llosgi y rhai’n, eu terfyn fu,yn ulw, y llu annulwion.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 106