Hen Destament

Salm 106:17-36 Salmau Cân 1621 (SC)

17. Egorai’r ddayar yn y man,a llyngcai Ddathan ddybryd:Ac a gynhullodd i’r un llam,holl lu Abiram hefyd.

18. Ac yn ei ddig enynnodd tân,yn fuan yn eu canol:Llosgi y rhai’n, eu terfyn fu,yn ulw, y llu annulwion.

19. Yn Horeb gwnaethant dawdd-lun lloac iddo ymgrymmasant:

20. I lun llo a borai wellt mân,y troesan eu gogoniant.

21. Anghofient wrthiau Duw ar hynt,(a fuasai gynt achubwr.)

22. Yng wlâd yr Aipht, mor coch, tir Ham,heb feddwl am eu cyflwr.

23. Dwedodd mai eu difetha wnaioni bai i’w was MoesenDrwy sefyll o’i blaen iw lid maithdroi ymaith eu drwg ddilen.

24. Dirmygent hwy y prydferth dir,ac iw air gwir ni chredent:

25. Ond yn eu pebyll grwgnach tro,ac arno ni wrandawent.

26. Yno y derchafodd Duw ei law,iw cwympiaw drwy’r anialwch:

27. Rhyd tiroedd a phobloedd anghu,iw tanu mewn diffyrwch.

28. A Baal Peor aent ynghyd,ymgredu i gyd ag efo:Ebyrth y meirwon a fwytent,a Duw a roddent heibio.

29. Fal hyn digiasant f’Arglwydd Dduwâ chyfryw goeg ddychmygion:Yntau anfonodd bla’n eu mysg,fal dyma derfysg greulon.

30. Yna cyfododd Phinehes,mewn cyfiawn wres i ddial:A phan roes hwn ei farn yn dda,Duw ar y pla rhoes attal.

31. A chyfrifwyd y weithred hon,yn weithred gyfion yntho,O oes i oes (drwy air Duw Ion)pan ddelai son amdano.

32. Ac wrth lan dwfr Meribbah gynt,yno ’y cyffroynt gynnen,Lle’y digient Dduw â’i crasder ffraeth,am hyn bu’n waeth i Foesen.

33. Wrth gythruddo yspryd y Sanct,hwy a barasant hefydIw enau draethu gair ar fai,ar na pherthynai’i ddwedyd.

34. Ni laddent chwaith bobloedd y wlâdwrth archiad Duw y lluoedd,

35. Ond ymgymyscu â hwynt yn gu,a dysgu eu gweithredoedd.

36. Gwasanaethu eu duwiau gau,y rhai fu faglau iddyn.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 106