Hen Destament

Salm 106:1-6 Salmau Cân 1621 (SC)

1. Molwch yr Arglwydd, cans da yw,moliennwch Dduw y llywydd:Oblegyd ei drugaredd frya bery yn dragywydd.

2. Yr Arglwydd pwy all draethu ei nertha’i holl dirionferth foliant?

3. A wnel gyfiownder gwyn eu byd,ei farn i gyd a gadwant.

4. O Arglwydd, cofia fi dy wâs,yn ol dy râs i’r eiddod:Ymwel â mi i’m cystudd caeth,â’th iechydwriaeth barod.

5. Fel y gwelwyf, ac y chwarddwyf,wych urddas d’etifeddaeth.Ac y cydganwyf fawl un don,a’th ddewisolion odiaeth.

6. Pechod, camwedd, ac annoethedd,gwnaethom gyda’n tadau:Ef a gaed arnom ormod gwall,heb ddeall dy fawr wyrthiau.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 106