Hen Destament

Salm 105:9-20 Salmau Cân 1621 (SC)

9. Ag Abraham, Isaac, a’i hil,a mil o genedlaethau.

10. Fe roes i Jaco hyn yn ddeddf,ac yn rwym greddf dragwyddol.

11. Ac i Israel y rhoes lânwlâd Canan yn gartrefol.

12. Pan oedd yn anaml iawn eu plaid,a hwy’n ddieithriaid ynddi:

13. Ac yn rhodio o’r wlâd i’r llall,yn dioddef gwall a chyni:

14. Llesteiriodd iddynt gam yn dynn:o’r achos hyn brenhinoeddA geryddodd ef yn eu plaid:a’i air a gaid yn gyhoedd.

15. A’m eneiniog na chyffyrddwch:na ddrygwch fy mrhophwydi.

16. Galwodd am newyn ar y tir,yn wir dug fara ’honi.

17. O flaen ei blant y gyrrodd râs,Joseph yn wâs a werthwyd.

18. Ar ei draed y rhoed hayarn tynn,mewn gefyn y cystuddiwyd.

19. Gwisgodd y gefyn hyd y byw,nes i air Duw amseru:Drwy Dduw y cafas ef ryddhâd,a phrifiad er ei garu.

20. Yna y gyrrwyd iw gyrchu fogar bron hen Pharo frenin:Ac y gollyngwyd ef ar lled,o’i gam gaethiwed ryflin.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 105