Hen Destament

Salm 105:34-43 Salmau Cân 1621 (SC)

34. Ceiliog rhedyn, a lindys brwd,yn difa cnwd eu meusydd,

35. Uwchlaw rhif, drwy yd, gwellt, a gwair,a hyn drwy air Duw ddofydd.

36. Cyntaf-anedig pob pen llwyth,a’i blaenffrwyth ef a drawodd:Ym hob mân drwy holl dir ei gâs,a’i bobl o’i râs a gadwodd:

37. Ar a’i dug hwynt yn rhydd mewn hedd,o’winedd eu caseion,Heb fod ohonynt un yn wan,ac aur ac arian ddigon.

38. A llawen fu gan wyr y wlad,o’r Aipht pan gâd eu gwared.Daeth arnynt arfwyd y llaw grefa ddaeth o’r nef i wared.

39. Rhoes Duw y dydd gwmwl uwchben,fel mantell wen y toodd:A’r nos goleuodd hwynt â thân,fal hyn yn lân y twysodd.

40. Fo a roes iddynt ar y gairgig sofli-air iw bodloni:A bara, o’i orchymmyn ef,a ddaeth o’r nef iw porthi.

41. Holltodd y graig, death deifr yn llif,fel be baent brif afonydd:Cerddodd yr hedlif, a rhoes wlychrhyd pob lle sych o’r gwledydd.

42. Cofio a wnaeth ei air a’i râs,i Abram ei wâs ffyddlon.

43. A thrwy fawr nerth yn rhydd o gaethy gwnaeth ei ddewisolion.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 105