25. Yna y troes ei calon gau,i lwyr gasau ei bobloedd:Iw weision ef i wneuthur twyll,a llid (nid amwyll) ydoedd.
26. Duw gyrrodd Foesen i was hen,ac Aron llen dewisol.
27. Yn nhir Ham i arwyddoccauei nerth a’i wrthiau nodol.
28. Rhoes Duw dywyllwch dros y wlâd,er hyn ni châd ufydd-dod.
29. Eu dyfroedd oll a droed yn waed,a lladd a waned eu pysgod.
30. Iw tir rhoes lyffaint, heidiau hyll,yn stefyll ei brenhinoedd:
31. Daeth ar ei air wybed a llau,yn holl fannau eu tiroedd.
32. Fe lawiodd arnynt genllysc mân,a’i tir â than a ysodd:
33. Eu gwinwydd a’i ffigyswydd mâd,a choed y wlâd a ddrylliodd.
34. Ceiliog rhedyn, a lindys brwd,yn difa cnwd eu meusydd,
35. Uwchlaw rhif, drwy yd, gwellt, a gwair,a hyn drwy air Duw ddofydd.
36. Cyntaf-anedig pob pen llwyth,a’i blaenffrwyth ef a drawodd:Ym hob mân drwy holl dir ei gâs,a’i bobl o’i râs a gadwodd:
37. Ar a’i dug hwynt yn rhydd mewn hedd,o’winedd eu caseion,Heb fod ohonynt un yn wan,ac aur ac arian ddigon.