1. Clodfored pawb yr Arglwydd nef,ar ei enw ef y gelwch:A’i weithredoedd ymmysc pobloeddyn gyhoedd a fynegwch.
2. Cenwch ei gerdd, clodforwch hwn,a’i ddidwn ryfeddodau.
3. Y rhai a gais ei enw, (y Sant)llawenant yn eu c’lonnau.
4. Ceisiwch yr Arglwydd a’i nerth mawr,a’i fodd bob awr yn rhadlon,
5. Cofiwch ei holl ryfeddodau,a barn ei enau cyfion.
6. O hâd Abraham ei wâs fo,o feibion Jaco’r ethol:
7. Ef yw’n Duw, a’i farn ef aethdros holl diriogaeth fydol.
8. Bob amser cofiodd ei gyn-grair,ei air, a’i rwym ammodau
9. Ag Abraham, Isaac, a’i hil,a mil o genedlaethau.
10. Fe roes i Jaco hyn yn ddeddf,ac yn rwym greddf dragwyddol.