Hen Destament

Salm 104:5-18 Salmau Cân 1621 (SC)

5. Cref y rhoes sail y ddaiar gron,fel na syfl hon oddiyno:Yr hon a bery fel y rhoes,o oes i oes, heb siglo.

6. Tydi (Dduw) a ddilledaist honâ’r eigion yn fantellau,Ac oni bai dy ddehau law,ai’r deifr uwchlaw y bryniau.

7. Gan dy gerydd maent hwy yn ffo,fel pan y synio taran:Drwy fraw a brys ar hyd y ddol,y deifr iw hol a lithran.

8. Weithiau y codai’r deifr yn fryn:weithiau fel glyn panhylent,Lle y trefnaist iddynt bannwl cau,ac weithiau y gorphwysent.

9. Gosodaist derfyn lle yr arhont,ac fel nad elont drosto:Ac na ddelont hwy fyth dros lawry ddaiar fawr, iw chuddio.

10. Rhoes Duw ffynnon i bob afon,a phawb a yfant beunydd:A rhed y ffrydau rhyd y glynn,a rhwng pob bryn a’i gilydd.

11. Yfant yno anfeiliaid maes,assynnod myng-laes gwylltion,Heb ymadael a llawr y nant,hyd onid yfant ddigon.

12. Ac adar awyr dont gar llaw,i leisiaw rhwng y coedydd:Yn canu ei fawl o bren i bren,cethlyddiaeth lawen ufydd.

13. Dwfr ar fynyddoedd lle ni ddaw,fo wlych â glaw oddiarno:A’r gwastad tir efe a’i gwlych,bob grwn a rhych i ffrwytho.

14. Parodd i’r gwellt dyfu wrth raidanifeiliaid: a’r llysiau,Er da i ddyn: Lle rhoes o’r llawr,ymborthiant mawr rhag angau.

15. A gwin llawena calon dyn,ag olew tywyn wyneb.A bara nerthir calon gwr,mewn cyflwr digonoldeb.

16. Preniau’r Arglwydd o sugn llawn,o’i unic ddawn y tyfan.Sef y coed cedrwydd brigog mawr,a roes e’n llawr y Liban.

17. Lle y mae nythod yr adar mân,mewn preniau glân cadeir-ir:Lle mewn ffynnidwydd glwyswydd glyn,mae ty’r aderyn trwynhir.

18. Y mynydd uchel a’r bryn glâs,yw llwybr y danas fychod:Ogof y doll-graig a wna les,yn lloches i’r cwningod.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 104