2. Megis ei ddillad y gwisg foam dano y goleuad:Rhydd yn ei gylch yr wybr ar dân,yn llydan, fel llen wastad.
3. Ar ddeifr rhoes sail ei stefyll cau,gwnaeth y cymylau iddoYn drwn olwynog: mae ei hyntuwch esgyll gwynt yn rhodio.
4. Gwnaeth bob chwythad iddo’n gennad,gogonedd y ffurfafen:A'i weinidogion o fflam dân,a wibian rhyd yr wybren.
5. Cref y rhoes sail y ddaiar gron,fel na syfl hon oddiyno:Yr hon a bery fel y rhoes,o oes i oes, heb siglo.
6. Tydi (Dduw) a ddilledaist honâ’r eigion yn fantellau,Ac oni bai dy ddehau law,ai’r deifr uwchlaw y bryniau.
7. Gan dy gerydd maent hwy yn ffo,fel pan y synio taran:Drwy fraw a brys ar hyd y ddol,y deifr iw hol a lithran.
8. Weithiau y codai’r deifr yn fryn:weithiau fel glyn panhylent,Lle y trefnaist iddynt bannwl cau,ac weithiau y gorphwysent.
9. Gosodaist derfyn lle yr arhont,ac fel nad elont drosto:Ac na ddelont hwy fyth dros lawry ddaiar fawr, iw chuddio.