15. A gwin llawena calon dyn,ag olew tywyn wyneb.A bara nerthir calon gwr,mewn cyflwr digonoldeb.
16. Preniau’r Arglwydd o sugn llawn,o’i unic ddawn y tyfan.Sef y coed cedrwydd brigog mawr,a roes e’n llawr y Liban.
17. Lle y mae nythod yr adar mân,mewn preniau glân cadeir-ir:Lle mewn ffynnidwydd glwyswydd glyn,mae ty’r aderyn trwynhir.
18. Y mynydd uchel a’r bryn glâs,yw llwybr y danas fychod:Ogof y doll-graig a wna les,yn lloches i’r cwningod.
19. Fe roes i’r lleuad i chwrs clau,a’i chyfnewidiau hefyd:A’r haul o amgylch y byd crwn,fo edwyn hwn ei fachlyd.
20. Tywyllwch nos a roed wrth raid,i fwystfiliaid y coedydd.
21. Y llewod rhuant am gael maethgan Dduw, ysclyfaeth bennydd.
22. A chwedi cael yr ymborth hyn,pan ddel haul attyn unwaith,Ymgasglant hwy i fynd iw ffau,ac iw llochesau eilwaith.
23. Y pryd hwn cyfyd dyn iw waith,ac iw orchwyliaith esgyd:Ac felly yr erys tan yr hwyr,lle y caiff yn llwyr ei fywyd.
24. O Dduw, mor rhyfedd yw dy waitho’th synwyr berffaith dradoeth!Gwnaethost bob peth â doethder dawn,a’r tir sy lawn o’th gyfoeth.
25. A’r llydan for, y deifr ymmysg,lle aml yw pysc yn llemmain:Lle yr ymlusgant, rif yr od,bwystfilod mawr a bychain.
26. Yno yr â llongau glândros y Leuiathan heibo.Yr hwn a osodaist di, lle y maeyn cael ei chwrae yntho.
27. Hwynt oll disgwiliant yn ei brydam gael oddiwrthyd borthiant:I gael dy rodd ymgasglu ynghyd,ie am ei bywyd byddant.
28. Duw, pan agorech di dy law,oddi yno daw daioni:Pob anifail a phob rhyw beth,a ddaw yn ddifeth ini.
29. Pan guddiech di dy wyneb pryd,a chasglu d’yspryd allan,Crynant, trengant, ac ant iw llwch,mewn diwedd trwch a thwrstan.
30. Duw, pan ollyngech di dy râd,fel rhoddi cread newydd,Y modd hyn wyneb yr holl dira adnewyddir beunydd.