1. O Arglwydd, erglyw fy ngweddi,a doed fy nghri hyd attad:
2. Na chudd d’wyneb mewn ing tra fwyf,clyw, clyw, pan alwyf arnad.
3. Fy nyddiau aethant fel y mwg,sef cynddrwg im cystuddiwyd:Fy esgyrn poethant achos hyn,fal tewyn ar yr aelwyd.
4. Fy nghalon trawyd â chryn iâs,ac fel y gwelltglas gwywodd:Fel yr anghofiais fwyta ’mwyddirmygwyd fi yn ormodd.
5. Glynodd fy esgyrn wrth fy nghroen,gan faint fy mhoen a’m tuchan.
6. Fel un o’r anialwch, lle y trigy pelig, neu’r dylluan.
7. Neu fel un o adar y to,a fai yn gwilio ’i fywyd,Yn rhodio ’n unic ben y ty:wyf anhy ac anhyfryd.
8. Fy ngelynion â thafod rhydd,hwy beunydd a’m difenwant:A than ynfydu yn ei gwyn,i’m herbyn y tyngasant.
9. Fel llwch a lludw yn fy mhla,fu’r bara a fwyteais:Yr un wedd yn y ddiod faufy nagrau a gymysgais.
10. A hyn fu o’th ddigofaint di,am yt’ fy nghodi unwaith:Ac herwydd bod dy ddig yn fawr,i’r llawr i’m teflaist eilwaith.