Hen Destament

Testament Newydd

Rhufeiniaid 14:1-9 beibl.net 2015 (BNET)

1. Derbyniwch y bobl hynny sy'n ansicr ynglŷn â rhai pethau. Peidiwch eu beirniadu nhw a gwneud rheolau caeth am bethau sy'n fater o farn bersonol.

2. Er enghraifft, mae un person yn teimlo'n rhydd i fwyta unrhyw beth, ond mae rhywun arall yn ansicr ac yn dewis bwyta dim ond llysiau rhag ofn iddo fwyta rhywbeth na ddylai.

3. Rhaid i'r rhai sy'n hapus i fwyta popeth beidio edrych i lawr ar y rhai sydd ddim yn gyfforddus i wneud hynny. A rhaid i'r bobl sy'n dewis peidio bwyta rhai pethau beidio beirniadu y rhai sy'n teimlo'n rhydd i fwyta – wedi'r cwbl mae Duw yn eu derbyn nhw!

4. Oes gen ti hawl i ddweud y drefn wrth was rhywun arall? Meistr y gwas sy'n penderfynu os ydy beth mae'n ei wneud yn iawn ai peidio. Gad i'r Arglwydd benderfynu os ydy'r rhai rwyt ti'n anghytuno gyda nhw yn gwneud y peth iawn.

5. Dyma i chi enghraifft arall: Mae rhai pobl yn gweld un diwrnod yn wahanol i bob diwrnod arall, hynny ydy, yn gysegredig. Ond mae pobl eraill yn ystyried pob diwrnod yr un fath. Dylai pawb fod yn hollol siŵr o'i safbwynt.

6. Mae'r rhai sy'n meddwl fod rhywbeth arbennig am un diwrnod, yn ceisio bod yn ffyddlon i'r Arglwydd. Mae'r rhai sy'n dewis bwyta cig eisiau cydnabod mai'r Arglwydd sy'n ei roi, trwy ddiolch i'r Arglwydd amdano. Ond mae'r rhai sy'n dewis peidio bwyta, hwythau hefyd, yn ceisio bod yn ffyddlon i'r Arglwydd, ac yn rhoi'r diolch i Dduw.

7. Dŷn ni ddim yn byw i'r hunan nac yn marw i'r hunan.

8. Wrth fyw ac wrth farw, dŷn ni eisiau bod yn ffyddlon i'r Arglwydd. Pobl Dduw ydyn ni tra byddwn ni byw a phan fyddwn ni farw.

9. Dyna pam gwnaeth y Meseia farw a dod yn ôl yn fyw – i fod yn Arglwydd ar y rhai sydd wedi marw a'r rhai sy'n dal yn fyw.

Darllenwch bennod gyflawn Rhufeiniaid 14