Mae'r rhai sy'n meddwl fod rhywbeth arbennig am un diwrnod, yn ceisio bod yn ffyddlon i'r Arglwydd. Mae'r rhai sy'n dewis bwyta cig eisiau cydnabod mai'r Arglwydd sy'n ei roi, trwy ddiolch i'r Arglwydd amdano. Ond mae'r rhai sy'n dewis peidio bwyta, hwythau hefyd, yn ceisio bod yn ffyddlon i'r Arglwydd, ac yn rhoi'r diolch i Dduw.