Hen Destament

Testament Newydd

Rhufeiniaid 1:9-17 beibl.net 2015 (BNET)

9. Dw i wrthi'n gweithio fy ngorau glas dros Dduw trwy gyhoeddi'r newyddion da am ei Fab, ac mae e'n gwybod mod i'n gweddïo drosoch chi o hyd ac o hyd.

10. Dw i'n gweddïo y bydd e'n ei gwneud hi'n bosib i mi ddod atoch chi o'r diwedd.

11. Dw i wir yn hiraethu am gael dod i'ch gweld chi, i mi gael rhannu rhyw fendith ysbrydol gyda chi fydd yn eich gwneud chi'n gryf.

12. Byddwn i a chithau'n cael ein calonogi wrth i ni rannu'n profiadau.

13. Dw i am i chi ddeall, frodyr a chwiorydd annwyl, fy mod i wedi bwriadu dod acw lawer gwaith, ond mae rhywbeth wedi fy rhwystro bob tro hyd yn hyn. Dw i eisiau gweld mwy a mwy o bobl Rhufain yn dod i gredu yn Iesu, fel sydd wedi digwydd yn y gwledydd eraill lle dw i wedi bod.

14. Mae'n rhaid i mi ddweud am Iesu wrth bawb – mae fel petai gen i ddyled i'w thalu! Dim ots os ydyn nhw'n bobl ddiwylliedig sydd wedi cael addysg neu'n farbariaid cwbl ddi-addysg.

15. A dyna pam dw i mor awyddus i ddod atoch chi yn Rhufain hefyd i gyhoeddi'r newyddion da.

16. Does gen i ddim cywilydd o'r newyddion da o gwbl. Dyma'r ffordd rymus mae Duw'n gweithio i achub pawb sy'n credu – yr Iddew a phawb arall hefyd.

17. Dyma'r newyddion da sy'n dangos i ni sut allwn ni gael perthynas iawn â Duw. Yr unig beth sydd ei angen ydy credu ei fod e'n ffyddlon. Dyna mae'r ysgrifau sanctaidd yn ei ddweud: “Trwy ffydd mae'r un sy'n iawn gyda Duw yn byw.”

Darllenwch bennod gyflawn Rhufeiniaid 1