Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 8:11-22 beibl.net 2015 (BNET)

11. Dw i'n dweud wrthoch chi, bydd llawer o bobl yn dod o bob rhan o'r byd ac yn eistedd i lawr i wledda gydag Abraham, Isaac a Jacob pan ddaw'r Un nefol i deyrnasu.

12. Ond bydd ‛dinasyddion y deyrnas‛ yn cael eu taflu allan i'r tywyllwch lle bydd pobl yn wylo'n chwerw ac mewn artaith.”

13. Yna dwedodd Iesu wrth y swyddog milwrol, “Dos! Cei yr hyn wnest ti gredu allai ddigwydd.” A dyna'n union pryd cafodd y gwas ei iacháu.

14. Dyma Iesu'n mynd i gartref Pedr. Yno gwelodd fam-yng-nghyfraith Pedr yn ei gwely gyda gwres uchel.

15. Cyffyrddodd Iesu ei llaw hi a diflannodd y tymheredd oedd ganddi, a dyma hi'n codi o'i gwely a gwneud pryd o fwyd iddo.

16. Pan oedd hi'n dechrau nosi dyma bobl yn dod â llawer iawn o rai oedd yng ngafael cythreuliaid at Iesu. Doedd ond rhaid iddo ddweud gair i fwrw allan yr ysbrydion drwg a iacháu pawb oedd yn sâl.

17. Felly dyma beth ddwedodd Duw drwy'r proffwyd Eseia yn dod yn wir: “Cymerodd ein gwendidau arno'i hun, a chario ein hafiechydon i ffwrdd.”

18. Pan welodd Iesu'r tyrfaoedd o bobl oedd o'i gwmpas, penderfynodd fod rhaid croesi i ochr draw'r llyn.

19. Yna dyma un o'r arbenigwyr yn y Gyfraith yn dod ato a dweud, “Athro, dw i'n fodlon dy ddilyn di ble bynnag byddi di'n mynd.”

20. Atebodd Iesu, “Mae gan lwynogod ffeuau ac adar nythod, ond does gen i, Mab y Dyn, ddim lle i orffwys.”

21. Dyma un arall o'i ddilynwyr yn dweud wrtho, “Arglwydd, gad i mi fynd adre i gladdu fy nhad gyntaf.”

22. Ond ateb Iesu oedd, “Dilyn di fi. Gad i'r rhai sy'n farw eu hunain gladdu eu meirw.”

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 8