Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 4:9-22 beibl.net 2015 (BNET)

9. A dwedodd y diafol wrtho, “Cei di'r cwbl gen i os gwnei di blygu i lawr i fy addoli i.”

10. Ond dyma Iesu'n dweud, “Dos i ffwrdd Satan! Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: ‘Addola'r Arglwydd dy Dduw, a'i wasanaethu e'n unig.’”

11. Yna dyma'r diafol yn ei adael, a daeth yr angylion ato a gofalu amdano.

12. Pan glywodd Iesu fod Ioan wedi cael ei garcharu, gadawodd Jwdea a mynd yn ôl i Galilea.

13. Ond yn lle mynd i Nasareth, aeth i fyw i Capernaum sydd ar lan y llyn yn ardal Sabulon a Nafftali.

14. Felly dyma beth ddwedodd Duw drwy'r proffwyd Eseia yn dod yn wir:

15. “Tir Sabulon a thir Nafftali, sydd ar Ffordd y Môr,a'r ardal yr ochr draw i Afon Iorddonen,hynny ydy Galilea, lle mae pobl o genhedloedd eraill yn byw –

16. Mae'r bobl oedd yn byw mewn tywyllwch wedi gweld golau llachar; ac mae golau wedi gwawrio ar y rhai sy'n byw dan gysgod marwolaeth.”

17. Dyna pryd y dechreuodd Iesu gyhoeddi ei neges, “Trowch gefn ar bechod, achos mae'r Un nefol yn dod i deyrnasu.”

18. Un tro roedd Iesu'n cerdded ar lan Llyn Galilea, a gwelodd ddau frawd – Simon, roedd pawb yn ei alw'n Pedr, a'i frawd Andreas. Pysgotwyr oedden nhw, ac roedden nhw wrthi'n taflu rhwyd i'r llyn.

19. Dyma Iesu'n galw arnyn nhw, “Dewch, dilynwch fi, a gwna i chi'n bysgotwyr sy'n dal pobl yn lle pysgod.”

20. Heb oedi, dyma'r ddau yn gollwng eu rhwydi a mynd ar ei ôl.

21. Wrth gerdded yn ei flaen, gwelodd Iesu ddau frawd arall, Iago ac Ioan, dau fab Sebedeus. Roedden nhw mewn cwch hefo Sebedeus eu tad yn trwsio eu rhwydi. Dyma Iesu'n eu galw nhw hefyd,

22. a dyma nhw'n gadael y cwch a'u tad a dechrau dilyn Iesu.

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 4