Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 4:14-25 beibl.net 2015 (BNET)

14. Felly dyma beth ddwedodd Duw drwy'r proffwyd Eseia yn dod yn wir:

15. “Tir Sabulon a thir Nafftali, sydd ar Ffordd y Môr,a'r ardal yr ochr draw i Afon Iorddonen,hynny ydy Galilea, lle mae pobl o genhedloedd eraill yn byw –

16. Mae'r bobl oedd yn byw mewn tywyllwch wedi gweld golau llachar; ac mae golau wedi gwawrio ar y rhai sy'n byw dan gysgod marwolaeth.”

17. Dyna pryd y dechreuodd Iesu gyhoeddi ei neges, “Trowch gefn ar bechod, achos mae'r Un nefol yn dod i deyrnasu.”

18. Un tro roedd Iesu'n cerdded ar lan Llyn Galilea, a gwelodd ddau frawd – Simon, roedd pawb yn ei alw'n Pedr, a'i frawd Andreas. Pysgotwyr oedden nhw, ac roedden nhw wrthi'n taflu rhwyd i'r llyn.

19. Dyma Iesu'n galw arnyn nhw, “Dewch, dilynwch fi, a gwna i chi'n bysgotwyr sy'n dal pobl yn lle pysgod.”

20. Heb oedi, dyma'r ddau yn gollwng eu rhwydi a mynd ar ei ôl.

21. Wrth gerdded yn ei flaen, gwelodd Iesu ddau frawd arall, Iago ac Ioan, dau fab Sebedeus. Roedden nhw mewn cwch hefo Sebedeus eu tad yn trwsio eu rhwydi. Dyma Iesu'n eu galw nhw hefyd,

22. a dyma nhw'n gadael y cwch a'u tad a dechrau dilyn Iesu.

23. Roedd Iesu'n teithio ar hyd a lled Galilea, yn dysgu'r bobl yn y synagogau, yn cyhoeddi'r newyddion da am deyrnasiad Duw, ac yn iacháu pob afiechyd a salwch oedd ar bobl.

24. Daeth Iesu'n enwog y tu allan i Galilea, ac roedd pobl o bob rhan o Syria yn dod â phawb oedd yn sâl ato – pobl oedd yn dioddef o afiechydon gwahanol, neu mewn poen, eraill yng ngafael cythreuliaid, yn dioddef o ffitiau epileptig, neu wedi eu parlysu. Iachaodd Iesu nhw i gyd.

25. Roedd tyrfaoedd o bobl yn ei ddilyn i bobman – pobl o Galilea, y Decapolis, Jerwsalem a Jwdea, ac o'r ochr draw i Afon Iorddonen.

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 4