Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 25:31-43 beibl.net 2015 (BNET)

31. “Pan fydd Mab y Dyn yn dod yn ôl, bydd yn dod fel brenin i deyrnasu. Bydd yn dod mewn ysblander, a'r holl angylion gydag e, ac yn eistedd ar yr orsedd hardd sydd yno ar ei gyfer yn y nefoedd.

32. Bydd yr holl genhedloedd yn cael eu casglu o'i flaen, a bydd yn eu rhannu'n ddau grŵp fel mae bugail yn gwahanu'r defaid a'r geifr.

33. Bydd yn rhoi'r defaid ar ei ochr dde a'r geifr ar ei ochr chwith.

34. “Dyma fydd y Brenin yn ei ddweud wrth y rhai sydd ar ei ochr dde, ‘Chi ydy'r rhai mae fy Nhad wedi eu bendithio, felly dewch i dderbyn eich etifeddiaeth. Mae'r cwbl wedi ei baratoi ar eich cyfer ers i'r byd gael ei greu.

35. Dewch, oherwydd chi roddodd fwyd i mi pan roeddwn i'n llwgu; chi roddodd ddiod i mi pan roedd syched arna i; chi roddodd groeso i mi pan doeddwn i ddim yn nabod neb;

36. chi roddodd ddillad i mi pan roeddwn i'n noeth; chi ofalodd amdana i pan roeddwn i'n sâl; chi ddaeth i ymweld â mi pan roeddwn i yn y carchar.’

37. “Ond bydd y rhai cyfiawn yma yn gofyn iddo, ‘Arglwydd, pryd welon ni ti'n llwgu a rhoi rhywbeth i ti i'w fwyta, neu'n sychedig a rhoi diod i ti?

38. Pryd wnaethon ni dy groesawu di pan oeddet ti'n nabod neb, neu roi dillad i ti pan oeddet ti'n noeth?

39. Pryd welon ni ti'n sâl neu yn y carchar a mynd i ymweld â ti?’

40. “A bydd y Brenin yn ateb, ‘Credwch chi fi, pan wnaethoch chi helpu'r person lleiaf pwysig sy'n perthyn i mi, gwnaethoch chi fy helpu i.’

41. “Yna bydd yn dweud wrth y rhai sydd ar ei ochr chwith, ‘Dych chi wedi'ch melltithio! Ewch i ffwrdd oddi wrtho i, i'r tân tragwyddol sydd wedi ei baratoi i'r diafol a'i gythreuliaid.

42. Roesoch chi ddim byd i mi pan oeddwn i'n llwgu; roesoch chi ddim diod i mi pan oedd syched arna i;

43. ches i ddim croeso gynnoch chi pan oeddwn i'n ddieithr; roesoch chi ddim dillad i mi eu gwisgo pan oeddwn i'n noeth; a wnaethoch chi ddim gofalu amdana i pan oeddwn i'n sâl ac yn y carchar.’

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 25