Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 25:22-32 beibl.net 2015 (BNET)

22. “Wedyn dyma'r un oedd wedi derbyn dwy dalent yn dod ac yn dweud, ‘Feistr, rhoist ti ddeuddeg mil o ddarnau arian yn fy ngofal i. Dw i wedi llwyddo i wneud deuddeg mil arall.’

23. “‘Da iawn ti!’ meddai'r meistr, ‘Rwyt ti'n weithiwr da, a galla i ddibynnu arnat ti! Rwyt ti wedi bod yn ffyddlon wrth drin yr ychydig rois i yn dy ofal di, felly dw i'n mynd i roi llawer iawn mwy o gyfrifoldeb i ti. Tyrd gyda mi i ddathlu!’

24. “Wedyn dyma'r un oedd wedi derbyn un dalent yn dod. ‘Feistr,’ meddai, ‘Mae pawb yn gwybod dy fod ti'n ddyn caled. Rwyt ti'n ecsbloetio pobl ac yn gwneud elw ar draul eu gwaith caled nhw.

25. Roedd gen i ofn gwneud colled, felly dw i wedi cadw dy arian di'n saff mewn twll yn y ddaear. Felly dyma dy arian yn ôl – mae'r cwbl yna.’

26. “Dyma'r meistr yn ei ateb, ‘Y cnaf diog, da i ddim! Dw i'n ddyn caled ydw i – yn ecsbloetio pobl ac yn gwneud elw ar draul eu gwaith caled nhw?

27. Dylet ti o leia fod wedi rhoi'r arian mewn cyfri cadw yn y banc, i mi ei gael yn ôl gyda rhyw fymryn o log!’

28. “Cymerwch yr arian oddi arno, a'i roi i'r un cyntaf sydd â deg talent ganddo.

29. Bydd y rhai sydd wedi gwneud defnydd da o beth sydd ganddyn nhw yn derbyn mwy, a bydd ganddyn nhw ddigonedd. Ond am y rhai sy'n gwneud dim byd, bydd hyd yn oed yr ychydig sydd ganddyn nhw yn cael ei gymryd oddi arnyn nhw!

30. Taflwch y gwas diwerth i'r tywyllwch, lle bydd pobl yn wylo'n chwerw ac mewn artaith!

31. “Pan fydd Mab y Dyn yn dod yn ôl, bydd yn dod fel brenin i deyrnasu. Bydd yn dod mewn ysblander, a'r holl angylion gydag e, ac yn eistedd ar yr orsedd hardd sydd yno ar ei gyfer yn y nefoedd.

32. Bydd yr holl genhedloedd yn cael eu casglu o'i flaen, a bydd yn eu rhannu'n ddau grŵp fel mae bugail yn gwahanu'r defaid a'r geifr.

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 25