Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 14:3-17 beibl.net 2015 (BNET)

3. Herod oedd wedi arestio Ioan Fedyddiwr a'i roi yn y carchar. Roedd wedi gwneud hynny o achos ei berthynas â Herodias, gwraig ei frawd, Philip.

4. Roedd Ioan wedi dweud wrtho dro ar ôl tro: “Dydy'r Gyfraith ddim yn caniatáu i ti ei chymryd hi.”

5. Er bod Herod eisiau lladd Ioan, roedd ganddo ofn gwneud hynny am fod y bobl yn ystyried Ioan yn broffwyd.

6. Ond yna, ar ddiwrnod pen-blwydd Herod dyma ferch Herodias yn perfformio dawns yn y parti. Roedd hi wedi plesio Herod cymaint

7. nes iddo dyngu ar lw y byddai'n rhoi iddi beth bynnag oedd hi'n gofyn amdano.

8. Gyda'i mam yn ei hannog, dwedodd wrtho, “Dw i eisiau i ti dorri pen Ioan Fedyddiwr, a'i roi i mi ar hambwrdd.”

9. Doedd y brenin ddim yn hapus o gwbl, ond am ei fod wedi addo ar lw o flaen ei westeion, rhoddodd orchymyn iddo gael ei roi iddi.

10. Anfonodd filwyr i'r carchar i dorri pen Ioan i ffwrdd.

11. Wedyn, dyma nhw'n dod â'r pen ar hambwrdd a'i roi i'r ferch fach, a rhoddodd hithau e i'w mam.

12. Dyma ddisgyblion Ioan yn cymryd y corff a'i gladdu, ac wedyn yn mynd i ddweud wrth Iesu beth oedd wedi digwydd.

13. Pan glywodd Iesu beth oedd wedi digwydd, aeth i ffwrdd mewn cwch i le tawel i fod ar ei ben ei hun. Ond clywodd y tyrfaoedd am hyn, a'i ddilyn ar droed o'r trefi.

14. Pan gyrhaeddodd Iesu'r lan, roedd gweld y dyrfa fawr yno yn ennyn tosturi ynddo, a iachaodd y rhai oedd yn sâl.

15. Roedd hi'n dechrau nosi, felly dyma'r disgyblion yn dod ato a dweud, “Mae'r lle yma'n anial ac mae'n mynd yn hwyr. Anfon y bobl i ffwrdd, iddyn nhw gael mynd i'r pentrefi i brynu bwyd.”

16. Atebodd Iesu, “Does dim rhaid iddyn nhw fynd i ffwrdd. Rhowch chi rywbeth i'w fwyta iddyn nhw.”

17. Medden nhw wrtho, “Dim ond pum torth fach a dau bysgodyn sydd gynnon ni.”

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 14