Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 14:17-32 beibl.net 2015 (BNET)

17. Medden nhw wrtho, “Dim ond pum torth fach a dau bysgodyn sydd gynnon ni.”

18. “Dewch â nhw i mi,” meddai.

19. A dwedodd wrth y bobl am eistedd i lawr ar y glaswellt. Wedyn cymerodd y pum torth a'r ddau bysgodyn ac offrymu gweddi o ddiolch i Dduw. Torrodd y bara a rhoi'r torthau i'w ddisgyblion, a dyma'r disgyblion yn eu rhannu i'r bobl.

20. Cafodd pawb ddigon i'w fwyta, a dyma nhw'n codi deuddeg llond basged o dameidiau oedd wedi eu gadael dros ben.

21. Roedd tua pum mil o ddynion wedi cael eu bwydo, heb sôn am wragedd a phlant!

22. Dyma Iesu'n gwneud i'w ddisgyblion fynd yn ôl i'r cwch a chroesi drosodd o'i flaen.

23. Ar ôl iddo anfon y dyrfa adre, aeth i ben mynydd er mwyn cael lle tawel i weddïo. Roedd yno ar ei ben ei hun ac roedd hi'n nosi.

24. Erbyn hynny roedd y cwch yn bell o'r tir, ac yn cael ei daro gan y tonnau am fod y gwynt yn ei erbyn.

25. Yna, rywbryd ar ôl tri o'r gloch y bore, aeth Iesu allan atyn nhw, gan gerdded ar y dŵr.

26. Pan welodd y disgyblion e'n cerdded ar y llyn, roedden nhw wedi dychryn am eu bywydau. “Ysbryd ydy e!” medden nhw, gan weiddi mewn ofn.

27. Ond dyma Iesu'n dweud wrthyn nhw, “Mae'n iawn! Fi ydy e. Peidiwch bod ag ofn.”

28. “Arglwydd, os mai ti sydd yna” meddai Pedr, “gad i mi ddod atat ti ar y dŵr.”

29. “Iawn, tyrd,” meddai Iesu. Yna camodd Pedr allan o'r cwch a dechrau cerdded ar y dŵr tuag at Iesu.

30. Ond pan welodd mor gryf oedd y gwynt, roedd arno ofn. Dechreuodd suddo, a gwaeddodd allan “Achub fi, Arglwydd!”

31. Dyma Iesu'n estyn ei law allan a gafael ynddo. “Ble mae dy ffydd di?” meddai wrtho, “Pam wnest ti amau?”

32. Wrth iddyn nhw ddringo i mewn i'r cwch dyma'r gwynt yn tawelu

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 14