Hen Destament

Testament Newydd

Luc 6:1-19 beibl.net 2015 (BNET)

1. Roedd Iesu'n croesi drwy ganol caeau ŷd ryw ddydd Saboth, a dyma'i ddisgyblion yn dechrau tynnu rhai o'r tywysennau ŷd, eu rhwbio yn eu dwylo a'u bwyta.

2. Gofynnodd rhai o'r Phariseaid, “Pam dych chi'n torri rheolau'r Gyfraith ar y Saboth?”

3. Atebodd Iesu, “Ydych chi ddim wedi darllen beth wnaeth Dafydd pan oedd e a'i ddilynwyr yn llwgu?

4. Aeth i mewn i dŷ Dduw a chymryd y bara oedd wedi ei gysegru a'i osod yn offrwm i Dduw. Mae'r Gyfraith yn dweud mai dim ond yr offeiriaid sy'n cael ei fwyta, ond cymerodd Dafydd beth, a'i roi i'w ddilynwyr hefyd.”

5. Wedyn dyma Iesu'n dweud wrthyn nhw, “Mae gen i, Fab y Dyn, hawl i ddweud beth sy'n iawn ar y Saboth.”

6. Ar ryw Saboth arall, roedd Iesu'n dysgu yn y synagog, ac roedd yno ddyn oedd â'i law dde yn ddiffrwyth.

7. Roedd y Phariseaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith yn ei wylio'n ofalus – oedd e'n mynd i iacháu'r dyn yma ar y Saboth? Roedden nhw'n edrych am unrhyw esgus i ddwyn cyhuddiad yn ei erbyn.

8. Ond roedd Iesu'n gwybod beth oedd yn mynd trwy'u meddyliau nhw, a galwodd y dyn ato, “Tyrd yma i sefyll o flaen pawb.” Felly cododd ar ei draed a sefyll lle gallai pawb ei weld.

9. “Gadewch i mi ofyn i chi,” meddai Iesu wrth y rhai oedd eisiau ei gyhuddo, “beth mae'r Gyfraith yn ei ddweud sy'n iawn i'w wneud ar y dydd Saboth: pethau da neu bethau drwg? Achub bywyd neu ddinistrio bywyd?”

10. Edrychodd Iesu arnyn nhw bob yn un, ac yna dwedodd wrth y dyn, “Estyn dy law allan.” Gwnaeth hynny a chafodd y llaw ei gwella'n llwyr.

11. Roedden nhw'n wyllt gynddeiriog, a dyma nhw'n dechrau trafod gyda'i gilydd pa ddrwg y gallen nhw ei wneud i Iesu.

12. Rhyw ddiwrnod aeth Iesu i ben mynydd i weddïo, a buodd wrthi drwy'r nos yn gweddïo ar Dduw.

13. Pan ddaeth hi'n fore, galwodd ei ddisgyblion ato a dewis deuddeg ohonyn nhw fel ei gynrychiolwyr personol:

14. Simon (yr un roedd Iesu'n ei alw'n Pedr), Andreas (brawd Pedr) Iago, Ioan, Philip, Bartholomeus,

15. Mathew, Tomos, Iago fab Alffeus, Simon (oedd yn cael ei alw ‛y Selot‛),

16. Jwdas fab Iago, a Jwdas Iscariot a drodd yn fradwr.

17. Yna aeth i lawr i le gwastad. Roedd tyrfa fawr o'i ddilynwyr gydag e, a nifer fawr o bobl eraill o bob rhan o Jwdea, ac o Jerwsalem a hefyd o arfordir Tyrus a Sidon yn y gogledd.

18. Roedden nhw wedi dod i wrando arno ac i gael eu hiacháu. Cafodd y rhai oedd yn cael eu poeni gan ysbrydion drwg eu gwella,

19. ac roedd pawb yn ceisio'i gyffwrdd am fod nerth yn llifo ohono ac yn eu gwella nhw i gyd.

Darllenwch bennod gyflawn Luc 6