Hen Destament

Testament Newydd

Luc 3:1-2-13 beibl.net 2015 (BNET)

1-2. Flynyddoedd yn ddiweddarach, tra roedd yn byw yn yr anialwch, cafodd Ioan, mab Sachareias, neges gan Dduw. Erbyn hynny roedd Tiberiws Cesar wedi bod yn teyrnasu ers pymtheng mlynedd; Pontius Peilat oedd llywodraethwr Jwdea, Herod yn is-lywodraethwr ar Galilea, ei frawd Philip ar Itwrea a Trachonitis, a Lysanias ar Abilene; ac roedd Annas a Caiaffas yn archoffeiriaid.

3. Teithiodd Ioan drwy'r ardal o gwmpas Afon Iorddonen, yn cyhoeddi bod rhaid i bobl gael eu bedyddio, fel arwydd eu bod nhw'n troi cefn ar eu pechodau ac yn derbyn maddeuant gan Dduw.

4. Roedd yn union fel mae'n dweud yn llyfr y proffwyd Eseia: “Llais yn gweiddi'n uchel yn yr anialwch, ‘Paratowch y ffordd i'r Arglwydd ddod! Gwnewch y llwybrau'n syth iddo!

5. Bydd pob dyffryn yn cael ei lenwi, pob mynydd a bryn yn cael ei lefelu. Bydd y ffyrdd troellog yn cael eu gwneud yn syth, a'r lonydd anwastad yn cael eu gwneud yn llyfn.

6. Bydd y ddynoliaeth gyfan yn gweld Duw yn achub.’”

7. Roedd Ioan yn dweud yn blaen wrth y tyrfaoedd oedd yn mynd allan ato i gael eu bedyddio ganddo: “Dych chi fel nythaid o nadroedd! Pwy sydd wedi'ch rhybuddio chi i ddianc rhag y gosb sy'n mynd i ddod?

8. Rhaid i chi ddangos yn y ffordd dych chi'n byw eich bod wedi newid go iawn. A pheidiwch meddwl eich bod chi'n saff drwy ddweud, ‘Abraham ydy'n tad ni.’ Gallai Duw droi'r cerrig yma sydd ar lawr yn blant i Abraham!

9. Mae bwyell barn Duw yn barod i dorri'r gwreiddiau i ffwrdd! Bydd pob coeden heb ffrwyth da yn tyfu arni yn cael ei thorri i lawr a'i thaflu i'r tân!”

10. “Felly, beth ddylen ni ei wneud?” gofynnodd y dyrfa.

11. Atebodd Ioan, “Os oes gynnoch chi ddwy gôt, rhowch un ohonyn nhw i berson tlawd sydd heb un o gwbl. A gwnewch yr un fath gyda bwyd.”

12. Roedd rhai oedd yn casglu trethi i'r Rhufeiniaid yn dod i gael eu bedyddio hefyd, a dyma nhw'n gofyn iddo, “Beth ddylen ni ei wneud, athro?”

13. “Peidio casglu mwy o arian nag y dylech chi,” meddai wrthyn nhw.

Darllenwch bennod gyflawn Luc 3