Hen Destament

Testament Newydd

Luc 16:1-14 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dyma Iesu'n dweud y stori yma wrth ei ddisgyblion: “Roedd rhyw ddyn cyfoethog yn cyflogi fforman, ac wedi clywed sibrydion ei fod yn gwastraffu ei eiddo.

2. Felly dyma'r dyn yn galw'r fforman i'w weld, a gofyn iddo, ‘Beth ydy hyn dw i'n ei glywed amdanat ti? Dw i eisiau gweld y llyfrau cyfrifon. Os ydy'r stori'n wir, cei di'r sac.’

3. “‘Beth dw i'n mynd i wneud?’ meddyliodd y fforman. ‘Dw i'n mynd i golli fy job. Dw i ddim yn ddigon cryf i fod yn labrwr, a fyddwn i byth yn gallu cardota.

4. Dw i'n gwybod! Dw i'n mynd i wneud rhywbeth fydd yn rhoi digon o ffrindiau i mi, wedyn pan fydda i allan o waith bydd digon o bobl yn rhoi croeso i mi yn eu cartrefi.’

5. “A dyma beth wnaeth – cysylltodd â phob un o'r bobl oedd mewn dyled i'w feistr. Gofynnodd i'r cyntaf, ‘Faint o ddyled sydd arnat ti i'm meistr i?’

6. “‘Wyth can galwyn o olew olewydd,’ meddai.“Yna meddai'r fforman, ‘Tafla'r bil i ffwrdd. Gad i ni ddweud mai pedwar cant oedd e.’

7. “Yna gofynnodd i un arall, ‘Faint ydy dy ddyled di?’“‘Can erw o wenith,’ atebodd.“‘Tafla'r bil i ffwrdd,’ meddai'r fforman. ‘Dwedwn ni wyth deg.’

8. “Roedd rhaid i'r meistr edmygu'r fforman am fod mor graff, er ei fod yn anonest. Ac mae'n wir fod pobl y byd yn fwy craff wrth drin pobl eraill na phobl y golau.

9. Dw i'n dweud wrthoch chi, gwnewch ffrindiau trwy ddefnyddio'ch arian er lles pobl eraill. Pan fydd gynnoch chi ddim ar ôl, bydd croeso i chi yn y nefoedd.

10. “Os gellir eich trystio chi gyda pethau bach, gellir eich trystio chi gyda pethau mawr. Ond os ydych chi'n twyllo gyda phethau bach, sut mae eich trystio chi gyda pethau mawr?

11. Felly os dych chi ddim yn onest wrth drin arian, pwy sy'n mynd i'ch trystio chi gyda'r gwir gyfoeth?

12. Os dych chi ddim yn onest wrth drin eiddo pobl eraill, pwy sy'n mynd i roi eiddo i chi ei gadw i chi'ch hun?

13. “Does neb yn gallu gweithio i ddau feistr gwahanol ar yr un pryd. Mae un yn siŵr o gael y flaenoriaeth ar draul y llall. Allwch chi ddim bod yn was i Dduw ac arian ar yr un pryd.”

14. Pan glywodd y Phariseaid hyn roedden nhw'n gwneud hwyl am ben Iesu, gan eu bod nhw'n hoff iawn o'u harian.

Darllenwch bennod gyflawn Luc 16