Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 2:9-22 beibl.net 2015 (BNET)

9. a dyma llywydd y wledd yn blasu'r dŵr oedd wedi ei droi'n win. Doedd ganddo ddim syniad o ble roedd wedi dod (ond roedd y gweision oedd wedi codi'r dŵr yn gwybod). Yna galwodd y priodfab ato

10. ac meddai wrtho, “Mae pobl fel arfer yn dod â'r gwin gorau allan gyntaf a'r gwin rhad yn nes ymlaen ar ôl i'r gwesteion gael gormod i'w yfed. Pam wyt ti wedi cadw'r gorau i'r diwedd?”

11. Y wyrth hon yn Cana Galilea oedd y gyntaf wnaeth Iesu fel arwydd o pwy oedd. Roedd yn dangos ei ysblander, a dyma'i ddisgyblion yn credu ynddo.

12. Ar ôl y briodas aeth Iesu i lawr i Capernaum gyda'i fam a'i frodyr a'i ddisgyblion, ac aros yno am ychydig ddyddiau.

13. Roedd yn amser Gŵyl y Pasg (un o wyliau'r Iddewon), a dyma Iesu'n mynd i Jerwsalem.

14. Yng nghwrt y deml gwelodd bobl yn gwerthu ychen, defaid a colomennod, ac eraill yn eistedd wrth fyrddau yn cyfnewid arian.

15. Felly gwnaeth chwip o reffynnau, a'u gyrru nhw i gyd allan o'r deml gyda'r defaid a'r ychen. Chwalodd holl arian y rhai oedd yn cyfnewid arian, a throi eu byrddau drosodd.

16. Yna meddai wrth y rhai oedd yn gwerthu colomennod “Ewch â'r rhain allan oddi yma! Stopiwch droi tŷ fy Nhad i yn farchnad!”

17. Yna cofiodd ei ddisgyblion fod yr ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Bydd fy sêl dros dy dŷ di yn fy meddiannu i.”

18. Ond dyma'r arweinwyr Iddewig yn ei herio, “Pa arwydd gwyrthiol wnei di i brofi i ni fod gen ti hawl i wneud hyn i gyd?”

19. Atebodd Iesu nhw, “Dinistriwch y deml hon, a gwna i ei hadeiladu hi eto o fewn tri diwrnod.”

20. Atebodd yr arweinwyr Iddewig, “Mae'r deml wedi bod yn cael ei hadeiladu ers pedwar deg chwech mlynedd! Wyt ti'n mynd i'w hadeiladu mewn tri diwrnod?”

21. (Ond y deml oedd Iesu'n sôn amdani oedd ei gorff.

22. Ar ôl i Iesu ddod yn ôl yn fyw, cofiodd ei ddisgyblion ei fod wedi dweud hyn, a dyma nhw'n credu'r ysgrifau sanctaidd a beth ddwedodd Iesu.)

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 2