Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21

Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 2 beibl.net 2015 (BNET)

Iesu'n troi Dŵr yn Win

1. Dau ddiwrnod wedyn roedd priodas yn Cana, pentref yn Galilea. Roedd mam Iesu yno,

2. ac roedd Iesu a'i ddisgyblion wedi derbyn y gwahoddiad i'r briodas hefyd.

3. Pan doedd dim gwin ar ôl, dyma fam Iesu'n dweud wrtho, “Does ganddyn nhw ddim mwy o win.”

4. Atebodd Iesu, “Mam annwyl, gad lonydd i mi. Paid busnesa. Dydy fy amser i ddim wedi dod eto.”

5. Ond dwedodd ei fam wrth y gweision, “Gwnewch beth bynnag fydd yn ei ddweud wrthoch chi.”

6. Roedd chwech ystên garreg wrth ymyl (y math sy'n cael eu defnyddio gan yr Iddewon i ddal dŵr ar gyfer y ddefod o ymolchi seremonïol). Roedd pob un ohonyn nhw'n dal rhwng wyth deg a chant dau ddeg litr.

7. Dwedodd Iesu wrth y gweision, “Llanwch yr ystenau yma gyda dŵr.” Felly dyma nhw'n eu llenwi i'r top.

8. Yna dwedodd wrthyn nhw, “Cymerwch beth ohono a mynd ag e i lywydd y wledd.” Dyma nhw'n gwneud hynny,

9. a dyma llywydd y wledd yn blasu'r dŵr oedd wedi ei droi'n win. Doedd ganddo ddim syniad o ble roedd wedi dod (ond roedd y gweision oedd wedi codi'r dŵr yn gwybod). Yna galwodd y priodfab ato

10. ac meddai wrtho, “Mae pobl fel arfer yn dod â'r gwin gorau allan gyntaf a'r gwin rhad yn nes ymlaen ar ôl i'r gwesteion gael gormod i'w yfed. Pam wyt ti wedi cadw'r gorau i'r diwedd?”

11. Y wyrth hon yn Cana Galilea oedd y gyntaf wnaeth Iesu fel arwydd o pwy oedd. Roedd yn dangos ei ysblander, a dyma'i ddisgyblion yn credu ynddo.

12. Ar ôl y briodas aeth Iesu i lawr i Capernaum gyda'i fam a'i frodyr a'i ddisgyblion, ac aros yno am ychydig ddyddiau.

Iesu'n clirio'r Deml

13. Roedd yn amser Gŵyl y Pasg (un o wyliau'r Iddewon), a dyma Iesu'n mynd i Jerwsalem.

14. Yng nghwrt y deml gwelodd bobl yn gwerthu ychen, defaid a colomennod, ac eraill yn eistedd wrth fyrddau yn cyfnewid arian.

15. Felly gwnaeth chwip o reffynnau, a'u gyrru nhw i gyd allan o'r deml gyda'r defaid a'r ychen. Chwalodd holl arian y rhai oedd yn cyfnewid arian, a throi eu byrddau drosodd.

16. Yna meddai wrth y rhai oedd yn gwerthu colomennod “Ewch â'r rhain allan oddi yma! Stopiwch droi tŷ fy Nhad i yn farchnad!”

17. Yna cofiodd ei ddisgyblion fod yr ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Bydd fy sêl dros dy dŷ di yn fy meddiannu i.”

18. Ond dyma'r arweinwyr Iddewig yn ei herio, “Pa arwydd gwyrthiol wnei di i brofi i ni fod gen ti hawl i wneud hyn i gyd?”

19. Atebodd Iesu nhw, “Dinistriwch y deml hon, a gwna i ei hadeiladu hi eto o fewn tri diwrnod.”

20. Atebodd yr arweinwyr Iddewig, “Mae'r deml wedi bod yn cael ei hadeiladu ers pedwar deg chwech mlynedd! Wyt ti'n mynd i'w hadeiladu mewn tri diwrnod?”

21. (Ond y deml oedd Iesu'n sôn amdani oedd ei gorff.

22. Ar ôl i Iesu ddod yn ôl yn fyw, cofiodd ei ddisgyblion ei fod wedi dweud hyn, a dyma nhw'n credu'r ysgrifau sanctaidd a beth ddwedodd Iesu.)

Iesu'n nabod y natur ddynol

23. Tra roedd Iesu yn Jerwsalem yn ystod Gŵyl y Pasg, daeth llawer o bobl i gredu ynddo am eu bod nhw wedi ei weld e'n gwneud arwyddion gwyrthiol.

24. Ond doedd Iesu ddim yn eu trystio nhw – roedd e'n deall pobl i'r dim.

25. Doedd dim angen neb i esbonio iddo, am ei fod e'n gwybod yn iawn sut mae'r meddwl dynol yn gweithio.