Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 2:13-25 beibl.net 2015 (BNET)

13. Roedd yn amser Gŵyl y Pasg (un o wyliau'r Iddewon), a dyma Iesu'n mynd i Jerwsalem.

14. Yng nghwrt y deml gwelodd bobl yn gwerthu ychen, defaid a colomennod, ac eraill yn eistedd wrth fyrddau yn cyfnewid arian.

15. Felly gwnaeth chwip o reffynnau, a'u gyrru nhw i gyd allan o'r deml gyda'r defaid a'r ychen. Chwalodd holl arian y rhai oedd yn cyfnewid arian, a throi eu byrddau drosodd.

16. Yna meddai wrth y rhai oedd yn gwerthu colomennod “Ewch â'r rhain allan oddi yma! Stopiwch droi tŷ fy Nhad i yn farchnad!”

17. Yna cofiodd ei ddisgyblion fod yr ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Bydd fy sêl dros dy dŷ di yn fy meddiannu i.”

18. Ond dyma'r arweinwyr Iddewig yn ei herio, “Pa arwydd gwyrthiol wnei di i brofi i ni fod gen ti hawl i wneud hyn i gyd?”

19. Atebodd Iesu nhw, “Dinistriwch y deml hon, a gwna i ei hadeiladu hi eto o fewn tri diwrnod.”

20. Atebodd yr arweinwyr Iddewig, “Mae'r deml wedi bod yn cael ei hadeiladu ers pedwar deg chwech mlynedd! Wyt ti'n mynd i'w hadeiladu mewn tri diwrnod?”

21. (Ond y deml oedd Iesu'n sôn amdani oedd ei gorff.

22. Ar ôl i Iesu ddod yn ôl yn fyw, cofiodd ei ddisgyblion ei fod wedi dweud hyn, a dyma nhw'n credu'r ysgrifau sanctaidd a beth ddwedodd Iesu.)

23. Tra roedd Iesu yn Jerwsalem yn ystod Gŵyl y Pasg, daeth llawer o bobl i gredu ynddo am eu bod nhw wedi ei weld e'n gwneud arwyddion gwyrthiol.

24. Ond doedd Iesu ddim yn eu trystio nhw – roedd e'n deall pobl i'r dim.

25. Doedd dim angen neb i esbonio iddo, am ei fod e'n gwybod yn iawn sut mae'r meddwl dynol yn gweithio.

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 2