Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21

Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 1 beibl.net 2015 (BNET)

Daeth y Gair yn berson o gig a gwaed

1. Y Gair oedd yn bod ar y dechrau cyntaf.Roedd y Gair gyda Duw,a Duw oedd y Gair.

2. Roedd gyda Duw o'r dechrau cyntaf un.

3. Trwyddo y crëwyd popeth sy'n bod.Does dim yn bodoli ond beth greodd e.

4. Ynddo fe roedd bywyd,a'r bywyd hwnnw'n rhoi golau i bobl.

5. Mae'r golau yn dal i ddisgleirio yn y tywyllwch,a'r tywyllwch wedi methu ei ddiffodd.

6. Daeth dyn o'r enw Ioan i'r golwg. Duw oedd wedi anfon Ioan i roi tystiolaeth –

7. ac i ddweud wrth bawb am y golau, er mwyn i bawb ddod i gredu drwy'r hyn oedd yn ei ddweud.

8. Dim Ioan ei hun oedd y golau; dim ond dweud wrth bobl am y golau roedd e'n wneud.

9. Roedd y golau go iawn, sy'n rhoi golau i bawb, ar fin dod i'r byd.

10. Roedd y Gair yn y byd,ac er mai fe greodd y byd,wnaeth pobl y byd mo'i nabod.

11. Daeth i'w wlad ei hun,a chael ei wrthodgan ei bobl ei hun.

12. Ond cafodd pawb wnaeth ei dderbyn,(sef y rhai sy'n credu ynddo)hawl i ddod yn blant Duw.

13. Dim am fod ganddyn nhw waed Iddewig;(Dim canlyniad perthynas rywiol a chwant gŵr sydd yma)Duw sydd wedi eu gwneud nhw'n blant iddo'i hun!

14. Daeth y Gair yn berson o gig a gwaed;daeth i fyw yn ein plith ni.Gwelon ni ei ysblander dwyfol,ei ysblander fel Mab unigrywwedi dod oddi wrth y Tadyn llawn haelioni a gwirionedd.

15. Dyma'r un oedd Ioan yn sôn amdano. Cyhoeddodd yn uchel, “Dyma'r un ddwedais i amdano, ‘Mae'r un sy'n dod ar fy ôl i yn bwysicach na fi. Roedd e'n bodoli o'm blaen i.’”

16. Ynddo fe mae un fendith hael wedi cael ei rhoi yn lle'r llall – a hynny i bob un ohonon ni!

17. Rhoddodd Moses Gyfraith Duw i ni; wedyn dyma rodd hael Duw a'i wirionedd yn dod i ni yn Iesu y Meseia.

18. Does neb erioed wedi gweld Duw, ond mae'r Mab unigryw hwn (sy'n Dduw ei hun, gyda'r berthynas agosaf posib â'r Tad), wedi dweud yn glir amdano.

Ioan Fedyddiwr yn gwadu mai fe ydy'r Meseia

19. Dyma'r arweinwyr Iddewig yn Jerwsalem yn anfon offeiriaid a Lefiaid at Ioan Fedyddiwr i ofyn iddo pwy oedd.

20. Dwedodd Ioan yn blaen wrthyn nhw, “Dim fi ydy'r Meseia.”

21. “Felly pwy wyt ti?” medden nhw. “Ai Elias y proffwyd wyt ti?”“Nage” meddai Ioan.“Ai y Proffwyd soniodd Moses amdano wyt ti?”Atebodd eto, “Na.”

22. “Felly, pwy wyt ti'n ddweud wyt ti?” medden nhw yn y diwedd, “i ni gael rhoi rhyw ateb i'r rhai sydd wedi'n hanfon ni. Beth fyddet ti'n ei ddweud amdanat ti dy hun?”

23. Atebodd Ioan drwy ddyfynnu geiriau'r proffwyd Eseia: “Llais yn gweiddi'n uchel yn yr anialwch, ‘Cliriwch y ffordd i'r Arglwydd!’ Dyna ydw i.”

24. Yna dyma'r rhai ohonyn nhw oedd yn Phariseaid

25. yn gofyn iddo, “Ond pa hawl sydd gen ti i fedyddio os mai dim ti ydy'r Meseia, nag Elias, na'r Proffwyd?”

26. Atebodd Ioan nhw, “Dŵr dw i'n ei ddefnyddio i fedyddio pobl. Ond mae rhywun dych chi ddim yn ei nabod yn sefyll yn eich plith chi –

27. sef yr un sy'n dod ar fy ôl i. Fyddwn i ddim digon da i fod yn gaethwas i ddatod carrai ei sandalau hyd yn oed!”

28. Digwyddodd hyn i gyd yn Bethania yr ochr draw i Afon Iorddonen, lle roedd Ioan yn bedyddio.

Iesu, Oen Duw

29. Y diwrnod wedyn gwelodd Ioan Iesu yn dod i'w gyfeiriad. “Edrychwch!” meddai, “Dacw Oen Duw, yr un sy'n cymryd pechod y byd i ffwrdd.

30. Dyma'r dyn ddwedais i amdano, ‘Mae un sy'n dod ar fy ôl i yn bwysicach na fi. Roedd e'n bodoli o'm blaen i.’

31. Doeddwn i ddim yn gwybod mai fe oedd yr un. Ond dw i wedi bod yn bedyddio â dŵr er mwyn i Israel ei weld e.”

32. Yna dyma Ioan yn dweud hyn: “Gwelais yr Ysbryd Glân yn disgyn o'r nefoedd fel colomen ac yn aros arno.

33. Cyn hynny doeddwn i ddim yn gwybod mai fe oedd yr un, ond roedd yr un anfonodd fi i fedyddio â dŵr wedi dweud wrtho i, ‘Os gweli di'r Ysbryd yn dod i lawr ac yn aros ar rywun, dyna'r un fydd yn bedyddio â'r Ysbryd Glân.’

34. A dyna welais i'n digwydd! Dw i'n dweud wrthoch chi mai Iesu ydy Mab Duw.”

Disgyblion cyntaf Iesu

35. Roedd Ioan yno eto'r diwrnod wedyn gyda dau o'i ddisgyblion.

36. Wrth i Iesu fynd heibio, roedd Ioan yn syllu arno, ac meddai “Edrychwch! Oen Duw!”

37. Dyma'r ddau ddisgybl glywodd beth ddwedodd Ioan yn mynd i ddilyn Iesu.

38. Trodd Iesu a'u gweld nhw'n ei ddilyn, a gofynnodd iddyn nhw, “Beth dych chi eisiau?”“Rabbi” medden nhw “ble rwyt ti'n aros?” (Ystyr y gair Hebraeg ‛Rabbi‛ ydy ‛Athro‛)

39. Atebodd Iesu nhw, “Dewch i weld.”Felly dyma nhw'n mynd i weld lle roedd yn aros, a threulio gweddill y diwrnod gydag e. Roedd hi tua pedwar o'r gloch y p'nawn erbyn hynny.

40. Andreas (brawd Simon Pedr) oedd un o'r ddau,

41. a'r peth cyntaf wnaeth wedyn oedd mynd i chwilio am ei frawd Simon, a dweud wrtho, “Dŷn ni wedi dod o hyd i'r Meseia” (gair Hebraeg sy'n golygu ‛Yr un wedi ei eneinio'n frenin‛).

42. Aeth Andreas ag e i gyfarfod Iesu. Edrychodd Iesu arno, ac yna dweud, “Simon fab Ioan wyt ti. Ond Ceffas fyddi di'n cael dy alw,” (enw sy'n golygu'r un peth â Pedr, sef ‛craig‛).

Iesu'n gwahodd Philip a Nathanael i fod yn ddilynwyr

43. Y diwrnod wedyn penderfynodd Iesu fynd i Galilea. Daeth o hyd i Philip, a dweud wrtho, “Tyrd, dilyn fi.”

44. Roedd Philip hefyd (fel Andreas a Pedr), yn dod o dref Bethsaida.

45. Yna aeth Philip i edrych am Nathanael a dweud wrtho, “Dŷn ni wedi dod o hyd i'r dyn yr ysgrifennodd Moses amdano yn y Gyfraith, a'r un soniodd y proffwydi amdano hefyd – Iesu, mab Joseff o Nasareth.”

46. “Nasareth?” meddai Nathanael, “– ddaeth unrhyw beth da o'r lle yna erioed?”“Tyrd i weld,” meddai Philip.

47. Pan welodd Iesu Nathanael yn dod ato, meddai amdano, “Dyma ddyn fyddai'n twyllo neb – Israeliad go iawn!”

48. “Sut wyt ti'n gwybod sut un ydw i?” meddai Nathanael.Atebodd Iesu, “Gwelais di'n myfyrio dan y goeden ffigys, cyn i Philip dy alw di.”

49. Dyma Nathanael yn ateb, “Rabbi, ti ydy mab Duw; ti ydy Brenin Israel.”

50. Meddai Iesu wrtho, “Wyt ti'n credu dim ond am fy mod i wedi dweud i mi dy weld di dan y goeden ffigys?” Yna dwedodd wrthyn nhw i gyd “Cewch weld pethau mwy na hyn!

51. Credwch chi fi, byddwch chi'n gweld y nefoedd yn agor, ac angylion Duw yn mynd i fyny ac yn dod i lawr arna i, Mab y Dyn.”