Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 18:28-40 beibl.net 2015 (BNET)

28. Aeth yr arweinwyr Iddewig a Iesu oddi wrth Caiaffas i'r pencadlys Rhufeinig. Erbyn hyn roedd hi'n dechrau gwawrio. Aethon nhw ddim i mewn i'r pencadlys, am eu bod nhw ddim eisiau torri'r rheolau ynglŷn â glendid seremonïol; roedden nhw eisiau gallu bwyta swper y Pasg.

29. Felly daeth Peilat allan atyn nhw a gofyn, “Beth ydy'r cyhuddiadau yn erbyn y dyn hwn?”

30. “Fydden ni ddim wedi ei drosglwyddo i ti oni bai ei fod wedi troseddu,” medden nhw.

31. “Felly cymerwch chi e,” meddai Peilat. “Defnyddiwch eich cyfraith eich hunain i'w farnu.” “Ond does gynnon ni mo'r awdurdod i'w ddedfrydu i farwolaeth,” medden nhw.

32. (Digwyddodd hyn fel bod beth ddwedodd Iesu am y ffordd roedd yn mynd i farw yn dod yn wir.)

33. Aeth Peilat yn ôl i mewn i'r palas, a galwodd Iesu i ymddangos o'i flaen a dweud wrtho, “Felly, ti ydy Brenin yr Iddewon, ie?”

34. “Wyt ti'n gofyn ohonot ti dy hun,” meddai Iesu, “neu ai eraill sydd wedi dweud hyn amdana i?”

35. “Dw i ddim yn Iddew!” atebodd Peilat. “Dy bobl di a'u prif offeiriaid sydd wedi dy drosglwyddo di i mi. Beth yn union wyt ti wedi ei wneud?”

36. Atebodd Iesu, “Dydy nheyrnas i ddim yn dod o'r byd yma. Petai hi, byddai fy ngweision wedi ymladd yn galed i'm cadw i rhag cael fy arestio gan yr awdurdodau Iddewig. Mae fy nheyrnas i yn dod o rywle arall.”

37. “Felly rwyt ti yn frenin!” meddai Peilat.Atebodd Iesu, “Ti sy'n defnyddio'r gair ‛brenin‛. Y rheswm pam ges i fy ngeni, a pham dw i wedi dod i'r byd ydy i dystio i beth sy'n wir go iawn. Mae pawb sydd ar ochr y gwir yn gwrando arna i.”

38. “Beth ydy gwirionedd?” meddai Peilat.Yna aeth allan at yr arweinwyr Iddewig eto a dweud, “Dw i ddim yn ei gael yn euog o unrhyw drosedd.

39. Mae'n arferiad i mi ryddhau un carcharor i chi adeg y Pasg. Ydych chi eisiau i mi ryddhau hwn, ‛Brenin yr Iddewon‛?”

40. “Na!” medden nhw, gan weiddi eto, “Dim hwn. Barabbas dŷn ni eisiau!” (Terfysgwr oedd Barabbas.)

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 18