Aeth yr arweinwyr Iddewig a Iesu oddi wrth Caiaffas i'r pencadlys Rhufeinig. Erbyn hyn roedd hi'n dechrau gwawrio. Aethon nhw ddim i mewn i'r pencadlys, am eu bod nhw ddim eisiau torri'r rheolau ynglŷn â glendid seremonïol; roedden nhw eisiau gallu bwyta swper y Pasg.