Hen Destament

Testament Newydd

Iago 4:7-17 beibl.net 2015 (BNET)

7. Felly gwnewch beth mae Duw eisiau. Gwrthwynebwch y diafol, a bydd yn ffoi oddi wrthoch chi.

8. Closiwch at Dduw a bydd e'n closio atoch chi. Golchwch eich dwylo, chi bechaduriaid, a phuro eich calonnau, chi ragrithwyr.

9. Dangoswch eich bod yn gofidio am y pethau drwg wnaethoch chi, dangoswch alar, ac wylwch. Trowch eich chwerthin yn alar a'ch miri yn dristwch.

10. Os wnewch chi blygu o flaen yr Arglwydd a chydnabod eich angen, bydd e'n eich anrhydeddu chi.

11. Peidiwch siarad yn ddirmygus am eich gilydd frodyr a chwiorydd. Mae'r un sy'n dirmygu neu'n beirniadu brawd neu chwaer, yn dirmygu ac yn beirniadu Cyfraith Duw. Barnu'r Gyfraith dych chi'n ei wneud wrth feirniadu pobl eraill, dim cadw'r Gyfraith.

12. A'r Un sydd wedi rhoi'r Gyfraith i ni, Duw ei hun, ydy'r unig Farnwr go iawn. Fe sydd â'r gallu i achub a dinistrio, dim ti! Pwy wyt ti'n feddwl wyt ti yn barnu dy gymydog?

13. Gwrandwch, chi sy'n dweud, “Awn i'r lle a'r lle heddiw neu fory, aros yno am flwyddyn, dechrau busnes a gwneud llwyth o arian.”

14. Wyddoch chi ddim beth fydd yn digwydd fory! Dydy'ch bywyd chi yn ddim byd ond tarth – mae'n ymddangos am ryw ychydig, ac yna'n diflannu!

15. Dyma beth dylech chi ddweud: “Os Duw a'i myn, cawn ni wneud hyn a'r llall.”

16. Ond yn lle hynny dych chi'n brolio eich bod yn mynd i wneud rhyw bethau mawr. Peth drwg ydy brolio fel hyn.

17. Felly cofiwch, os dych chi'n gwybod beth ydy'r peth iawn i'w wneud, ac eto ddim yn ei wneud, dych chi'n pechu.

Darllenwch bennod gyflawn Iago 4