Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5

Hen Destament

Testament Newydd

Iago 4 beibl.net 2015 (BNET)

Ymostwng i Dduw

1. Beth sy'n gyfrifol am yr holl frwydro a'r gwrthdaro sy'n eich plith chi? Onid yr ymdrech barhaus i fodloni'r hunan ydy'r drwg?

2. Dych chi eisiau rhywbeth ond yn methu ei gael. Mae'r ysfa yn gwneud i chi fod yn barod i ladd. Dych chi eisiau pethau ac yn methu cael gafael ynddyn nhw, felly dych chi'n ffraeo ac yn ymladd. Dych chi ddim yn cael am eich bod chi ddim yn gofyn i Dduw.

3. A dych chi ddim yn derbyn hyd yn oed pan dych chi yn gofyn, am eich bod chi'n gofyn am y rheswm anghywir! Dych chi ddim ond eisiau bodloni eich awydd am bleser.

4. Dych chi fel gwragedd sy'n anffyddlon i'w gwŷr! Ydy hi ddim yn amlwg i chi fod bod yn gyfaill i bethau'r byd yn golygu casineb at Dduw? Mae unrhyw un sy'n dewis bod yn gyfaill i'r byd yn gwneud ei hun yn elyn i Dduw.

5. Ydych chi'n meddwl fod beth mae'r ysgrifau sanctaidd yn ei ddweud yn ddiystyr: sef fod yr Ysbryd a roddodd i ni yn gwrthwynebu cenfigen?

6. Ond mae haelioni Duw yn fwy na hynny eto! Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Mae Duw yn gwrthwynebu pobl falch ond mae'n hael at y rhai gostyngedig.”

7. Felly gwnewch beth mae Duw eisiau. Gwrthwynebwch y diafol, a bydd yn ffoi oddi wrthoch chi.

8. Closiwch at Dduw a bydd e'n closio atoch chi. Golchwch eich dwylo, chi bechaduriaid, a phuro eich calonnau, chi ragrithwyr.

9. Dangoswch eich bod yn gofidio am y pethau drwg wnaethoch chi, dangoswch alar, ac wylwch. Trowch eich chwerthin yn alar a'ch miri yn dristwch.

10. Os wnewch chi blygu o flaen yr Arglwydd a chydnabod eich angen, bydd e'n eich anrhydeddu chi.

11. Peidiwch siarad yn ddirmygus am eich gilydd frodyr a chwiorydd. Mae'r un sy'n dirmygu neu'n beirniadu brawd neu chwaer, yn dirmygu ac yn beirniadu Cyfraith Duw. Barnu'r Gyfraith dych chi'n ei wneud wrth feirniadu pobl eraill, dim cadw'r Gyfraith.

12. A'r Un sydd wedi rhoi'r Gyfraith i ni, Duw ei hun, ydy'r unig Farnwr go iawn. Fe sydd â'r gallu i achub a dinistrio, dim ti! Pwy wyt ti'n feddwl wyt ti yn barnu dy gymydog?

Brolio am fory

13. Gwrandwch, chi sy'n dweud, “Awn i'r lle a'r lle heddiw neu fory, aros yno am flwyddyn, dechrau busnes a gwneud llwyth o arian.”

14. Wyddoch chi ddim beth fydd yn digwydd fory! Dydy'ch bywyd chi yn ddim byd ond tarth – mae'n ymddangos am ryw ychydig, ac yna'n diflannu!

15. Dyma beth dylech chi ddweud: “Os Duw a'i myn, cawn ni wneud hyn a'r llall.”

16. Ond yn lle hynny dych chi'n brolio eich bod yn mynd i wneud rhyw bethau mawr. Peth drwg ydy brolio fel hyn.

17. Felly cofiwch, os dych chi'n gwybod beth ydy'r peth iawn i'w wneud, ac eto ddim yn ei wneud, dych chi'n pechu.