Hen Destament

Testament Newydd

Iago 2:14-26 beibl.net 2015 (BNET)

14. Frodyr a chwiorydd, beth ydy'r pwynt i rywun honni ei fod yn credu, ac wedyn gwneud dim byd o ganlyniad i hynny? Ai dyna'r math o ‛gredu‛ sy'n achub rhywun?

15. Er enghraifft, os ydych chi'n gweld brawd neu chwaer yn brin o ddillad neu heb fwyd,

16. ac yna'n dweud, “Pob bendith i ti! Cadw'n gynnes, a gobeithio cei di rywbeth i'w fwyta.” Beth ydy'r pwynt os ydych chi'n ei adael yno heb roi dim byd iddo?

17. Mae ‛credu‛ ar ei ben ei hun yn union yr un fath. Os ydy'r ‛credu‛ ddim yn arwain at wneud rhywbeth, mae'n farw gelain.

18. Ond wedyn mae rhywun yn dadlau “Mae gan rai pobl ffydd ac mae eraill yn gwneud daioni.” A dw i'n ateb, “Wyt ti'n gallu dangos dy ffydd i mi heb wneud dim? Dw i'n dangos fy mod i'n credu drwy beth dw i'n ei wneud!”

19. Rwyt ti'n credu mai un Duw sy'n bod, wyt ti? Wel da iawn ti! Ond cofia fod y cythreuliaid yn credu hynny hefyd, ac yn crynu mewn ofn!

20. Y twpsyn! Oes rhaid i mi brofi i ti fod ‛credu‛ sydd ddim yn arwain at wneud rhywbeth yn dda i ddim?

21. Meddylia am ein cyndad Abraham. Onid y ffaith ei fod wedi gweithredu, a mynd ati i offrymu ei fab Isaac ar yr allor wnaeth ei berthynas e gyda Duw yn iawn?

22. Roedd ei ffydd i'w weld drwy beth wnaeth e. Roedd y gweithredu yn dangos ei fod yn credu go iawn, dim rhyw hanner credu.

23. Daeth beth mae'r ysgrifau sanctaidd yn ei ddweud yn wir: “Credodd Abraham, a chafodd ei dderbyn i berthynas iawn gyda Duw.” Cafodd ei alw'n ffrind Duw!

24. Felly dylet ti weld mai beth mae rhywun yn ei wneud sy'n dangos ei fod yn iawn gyda Duw, nid dim ond bod rhywun yn dweud ei fod yn credu.

25. I roi enghraifft hollol wahanol meddylia am Rahab y butain; onid beth wnaeth hi ddaeth â hi i berthynas iawn gyda Duw? Rhoddodd groeso i'r ysbiwyr a'u cuddio nhw, ac wedyn eu hanfon i ffwrdd ar hyd ffordd wahanol.

26. Yn union fel mae corff yn farw os oes dim anadl ynddo, mae credu heb weithredu yn farw!

Darllenwch bennod gyflawn Iago 2