Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5

Hen Destament

Testament Newydd

Iago 2 beibl.net 2015 (BNET)

Peidio dangos ffafriaeth

1. Frodyr a chwiorydd, dydy dangos ffafriaeth ddim yn beth iawn i bobl sy'n dweud eu bod nhw'n credu yn ein Harglwydd bendigedig ni, Iesu Grist.

2. Er enghraifft, meddyliwch petai rhywun cyfoethog, yn gwisgo dillad crand a modrwyau aur a gemau, yn dod i mewn i un o'ch cyfarfodydd, ac yna cardotyn tlawd mewn dillad budron yn dod i mewn hefyd.

3. Petaech chi'n rhoi'r sylw i gyd i'r person yn y dillad crand, ac yn dweud wrtho, “Eisteddwch yma, dyma'r sedd orau”, ond wedyn yn dweud wrth y cardotyn, “Dos di i sefyll yn y cefn, fan acw” neu “Eistedd di ar lawr yn y gornel yma”,

4. fyddech chi ddim yn awgrymu fod un person yn well na'r llall ac yn dangos fod eich cymhellion chi'n anghywir?

5. Gwrandwch arna i, frodyr a chwiorydd annwyl. Onid y bobl sy'n dlawd yng ngolwg y byd mae Duw wedi eu dewis i fod yn gyfoethog yn ysbrydol? Byddan nhw'n cael rhannu yn y deyrnas mae wedi ei haddo i'r rhai sy'n ei garu.

6. Ond dych chi'n amharchu'r tlawd! Y cyfoethog ydy'r bobl sy'n eich cam-drin chi! Onid nhw sy'n eich llusgo chi o flaen y llysoedd?

7. Onid nhw sy'n cablu enw da yr un dych chi'n perthyn iddo?

8. Os ydych chi'n ufudd i orchymyn pwysica'r ysgrifau sanctaidd: “Rwyt i garu dy gymydog fel rwyt ti'n dy garu dy hun,” da iawn chi.

9. Ond os ydych chi'n dangos ffafriaeth dych chi'n pechu, ac mae Cyfraith Duw yn dweud eich bod chi'n droseddwr.

10. Mae torri un o orchmynion Duw yr un fath â thorri'r Gyfraith i gyd.

11. Dwedodd Duw “Paid godinebu” (sef cael rhyw tu allan i dy briodas), a dwedodd hefyd “Paid llofruddio”. Felly os wyt ti'n lladd rhywun, rwyt ti wedi torri'r Gyfraith, hyd yn oed os wyt ti ddim wedi godinebu.

12. Dylech chi siarad a byw fel pobl sy'n mynd i gael eu barnu gan gyfraith cariad, sef ‛y gyfraith sy'n eich rhyddhau chi‛.

13. Fydd dim trugaredd i chi os ydych chi heb ddangos trugaredd at eraill, ond mae dangos trugaredd yn trechu barn.

Credu a Gweithredu

14. Frodyr a chwiorydd, beth ydy'r pwynt i rywun honni ei fod yn credu, ac wedyn gwneud dim byd o ganlyniad i hynny? Ai dyna'r math o ‛gredu‛ sy'n achub rhywun?

15. Er enghraifft, os ydych chi'n gweld brawd neu chwaer yn brin o ddillad neu heb fwyd,

16. ac yna'n dweud, “Pob bendith i ti! Cadw'n gynnes, a gobeithio cei di rywbeth i'w fwyta.” Beth ydy'r pwynt os ydych chi'n ei adael yno heb roi dim byd iddo?

17. Mae ‛credu‛ ar ei ben ei hun yn union yr un fath. Os ydy'r ‛credu‛ ddim yn arwain at wneud rhywbeth, mae'n farw gelain.

18. Ond wedyn mae rhywun yn dadlau “Mae gan rai pobl ffydd ac mae eraill yn gwneud daioni.” A dw i'n ateb, “Wyt ti'n gallu dangos dy ffydd i mi heb wneud dim? Dw i'n dangos fy mod i'n credu drwy beth dw i'n ei wneud!”

19. Rwyt ti'n credu mai un Duw sy'n bod, wyt ti? Wel da iawn ti! Ond cofia fod y cythreuliaid yn credu hynny hefyd, ac yn crynu mewn ofn!

20. Y twpsyn! Oes rhaid i mi brofi i ti fod ‛credu‛ sydd ddim yn arwain at wneud rhywbeth yn dda i ddim?

21. Meddylia am ein cyndad Abraham. Onid y ffaith ei fod wedi gweithredu, a mynd ati i offrymu ei fab Isaac ar yr allor wnaeth ei berthynas e gyda Duw yn iawn?

22. Roedd ei ffydd i'w weld drwy beth wnaeth e. Roedd y gweithredu yn dangos ei fod yn credu go iawn, dim rhyw hanner credu.

23. Daeth beth mae'r ysgrifau sanctaidd yn ei ddweud yn wir: “Credodd Abraham, a chafodd ei dderbyn i berthynas iawn gyda Duw.” Cafodd ei alw'n ffrind Duw!

24. Felly dylet ti weld mai beth mae rhywun yn ei wneud sy'n dangos ei fod yn iawn gyda Duw, nid dim ond bod rhywun yn dweud ei fod yn credu.

25. I roi enghraifft hollol wahanol meddylia am Rahab y butain; onid beth wnaeth hi ddaeth â hi i berthynas iawn gyda Duw? Rhoddodd groeso i'r ysbiwyr a'u cuddio nhw, ac wedyn eu hanfon i ffwrdd ar hyd ffordd wahanol.

26. Yn union fel mae corff yn farw os oes dim anadl ynddo, mae credu heb weithredu yn farw!