Hen Destament

Testament Newydd

Iago 2:1-10 beibl.net 2015 (BNET)

1. Frodyr a chwiorydd, dydy dangos ffafriaeth ddim yn beth iawn i bobl sy'n dweud eu bod nhw'n credu yn ein Harglwydd bendigedig ni, Iesu Grist.

2. Er enghraifft, meddyliwch petai rhywun cyfoethog, yn gwisgo dillad crand a modrwyau aur a gemau, yn dod i mewn i un o'ch cyfarfodydd, ac yna cardotyn tlawd mewn dillad budron yn dod i mewn hefyd.

3. Petaech chi'n rhoi'r sylw i gyd i'r person yn y dillad crand, ac yn dweud wrtho, “Eisteddwch yma, dyma'r sedd orau”, ond wedyn yn dweud wrth y cardotyn, “Dos di i sefyll yn y cefn, fan acw” neu “Eistedd di ar lawr yn y gornel yma”,

4. fyddech chi ddim yn awgrymu fod un person yn well na'r llall ac yn dangos fod eich cymhellion chi'n anghywir?

5. Gwrandwch arna i, frodyr a chwiorydd annwyl. Onid y bobl sy'n dlawd yng ngolwg y byd mae Duw wedi eu dewis i fod yn gyfoethog yn ysbrydol? Byddan nhw'n cael rhannu yn y deyrnas mae wedi ei haddo i'r rhai sy'n ei garu.

6. Ond dych chi'n amharchu'r tlawd! Y cyfoethog ydy'r bobl sy'n eich cam-drin chi! Onid nhw sy'n eich llusgo chi o flaen y llysoedd?

7. Onid nhw sy'n cablu enw da yr un dych chi'n perthyn iddo?

8. Os ydych chi'n ufudd i orchymyn pwysica'r ysgrifau sanctaidd: “Rwyt i garu dy gymydog fel rwyt ti'n dy garu dy hun,” da iawn chi.

9. Ond os ydych chi'n dangos ffafriaeth dych chi'n pechu, ac mae Cyfraith Duw yn dweud eich bod chi'n droseddwr.

10. Mae torri un o orchmynion Duw yr un fath â thorri'r Gyfraith i gyd.

Darllenwch bennod gyflawn Iago 2