Hen Destament

Testament Newydd

Galatiaid 6:8-18 beibl.net 2015 (BNET)

8. Bydd y rhai sy'n byw i foddhau eu chwantau pechadurus yn medi canlyniadau hynny, sef dinistr; ond bydd y rhai sy'n byw i blesio'r Ysbryd yn medi bywyd tragwyddol o'r Ysbryd.

9. Felly dylen ni byth flino gwneud daioni. Os gwnawn ni ddal ati daw'r amser pan fyddwn ni'n medi cynhaeaf o fendith.

10. Felly bob cyfle gawn ni, gadewch i ni wneud daioni i bawb, ac yn arbennig i'r teulu o gredinwyr.

11. Edrychwch mor fawr ydy fy llawysgrifen i!

12. Mae'r rhai sy'n ceisio eich gorfodi chi i gael eich enwaedu yn gwneud sioe o beth sydd wedi ei wneud i'r corff. A pham? Am eu bod nhw eisiau osgoi cael eu herlid am ddweud mai dim ond croes y Meseia sy'n achub.

13. Ond dydy'r rhai sydd wedi eu henwaedu ddim yn gwneud popeth mae'r Gyfraith Iddewig yn ei ddweud beth bynnag! Y rheswm pam maen nhw eisiau i chi fynd trwy'r ddefod o gael eich enwaedu ydy er mwyn iddyn nhw gael brolio am y peth!

14. “Na!” meddwn innau. Does ond un peth i frolio amdano: croes ein Harglwydd Iesu Grist ydy hwnnw. Mae'r groes yn golygu fod y byd a'i bethau yn hollol farw i mi, a dw innau'n farw i'r byd a'i bethau.

15. Dim cael eich enwaedu neu beidio sy'n bwysig bellach. Beth sy'n bwysig ydy bod eich bywyd chi wedi ei newid yn llwyr – eich bod chi'n greadigaeth newydd!

16. Dw i'n gweddïo y bydd pawb sy'n byw fel hyn, a phobl Dduw i gyd, yn profi ei heddwch dwfn a'i drugaredd!

17. Felly o hyn ymlaen, peidied neb â dal ati i greu mwy o helynt i mi. Mae gen i greithiau ar fy nghorff sy'n dangos mod i'n perthyn i Iesu!

18. Frodyr a chwiorydd, dw i'n gweddïo y byddwch chi'n profi haelioni rhyfeddol ein Harglwydd Iesu Grist! Amen.

Darllenwch bennod gyflawn Galatiaid 6