Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6

Hen Destament

Testament Newydd

Galatiaid 6 beibl.net 2015 (BNET)

Helpu pobl eraill

1. Frodyr a chwiorydd, os ydy rhywun yn cael ei ddal yn pechu, dylech chi sy'n cael eich arwain gan yr Ysbryd fod yn garedig ato, a'i helpu i droi'n ôl – ond gwyliwch rhag i chithau gael eich temtio i wneud yr un peth.

2. Helpwch eich gilydd pan mae pethau'n galed – dyna mae ‛cyfraith‛ y Meseia yn ei ofyn.

3. Os dych chi'n meddwl eich bod chi'n rhywun, dych chi'n twyllo'ch hunain – dych chi'n neb mewn gwirionedd.

4. Dylai pawb yn syml wneud beth allan nhw. Wedyn cewch y boddhad o fod wedi ei wneud heb orfod cymharu'ch hunain â phobl eraill o hyd.

5. Dŷn ni'n gyfrifol am beth dŷn ni'n hunain wedi ei wneud.

6. Dylai'r rhai sy'n cael eu dysgu am neges Duw dalu i'w hathro drwy rannu beth sydd ganddyn nhw gydag e.

7. Peidiwch twyllo'ch hunain: Allwch chi ddim chwarae gemau gyda Duw. Mae pobl yn medi beth maen nhw'n ei hau.

8. Bydd y rhai sy'n byw i foddhau eu chwantau pechadurus yn medi canlyniadau hynny, sef dinistr; ond bydd y rhai sy'n byw i blesio'r Ysbryd yn medi bywyd tragwyddol o'r Ysbryd.

9. Felly dylen ni byth flino gwneud daioni. Os gwnawn ni ddal ati daw'r amser pan fyddwn ni'n medi cynhaeaf o fendith.

10. Felly bob cyfle gawn ni, gadewch i ni wneud daioni i bawb, ac yn arbennig i'r teulu o gredinwyr.

Dim y ddefod o enwaediad ond creadigaeth newydd

11. Edrychwch mor fawr ydy fy llawysgrifen i!

12. Mae'r rhai sy'n ceisio eich gorfodi chi i gael eich enwaedu yn gwneud sioe o beth sydd wedi ei wneud i'r corff. A pham? Am eu bod nhw eisiau osgoi cael eu herlid am ddweud mai dim ond croes y Meseia sy'n achub.

13. Ond dydy'r rhai sydd wedi eu henwaedu ddim yn gwneud popeth mae'r Gyfraith Iddewig yn ei ddweud beth bynnag! Y rheswm pam maen nhw eisiau i chi fynd trwy'r ddefod o gael eich enwaedu ydy er mwyn iddyn nhw gael brolio am y peth!

14. “Na!” meddwn innau. Does ond un peth i frolio amdano: croes ein Harglwydd Iesu Grist ydy hwnnw. Mae'r groes yn golygu fod y byd a'i bethau yn hollol farw i mi, a dw innau'n farw i'r byd a'i bethau.

15. Dim cael eich enwaedu neu beidio sy'n bwysig bellach. Beth sy'n bwysig ydy bod eich bywyd chi wedi ei newid yn llwyr – eich bod chi'n greadigaeth newydd!

16. Dw i'n gweddïo y bydd pawb sy'n byw fel hyn, a phobl Dduw i gyd, yn profi ei heddwch dwfn a'i drugaredd!

17. Felly o hyn ymlaen, peidied neb â dal ati i greu mwy o helynt i mi. Mae gen i greithiau ar fy nghorff sy'n dangos mod i'n perthyn i Iesu!

18. Frodyr a chwiorydd, dw i'n gweddïo y byddwch chi'n profi haelioni rhyfeddol ein Harglwydd Iesu Grist! Amen.