Hen Destament

Testament Newydd

Effesiaid 4:8-19 beibl.net 2015 (BNET)

8. Dyna pam mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Pan aeth i fyny i'r uchelder arweiniodd gaethion ar ei ôl a rhannu rhoddion i bobl.”

9. (Beth mae “aeth i fyny” yn ei olygu oni bai ei fod hefyd wedi dod i lawr i'r byd daearol?

10. A'r un ddaeth i lawr ydy'r union un aeth i fyny i'r man uchaf yn y nefoedd, er mwyn i'w lywodraeth lenwi'r bydysawd cyfan).

11. A dyma'i roddion: mae wedi penodi rhai i fod yn gynrychiolwyr personol iddo, eraill i fod yn broffwydi, eraill yn rhai sy'n rhannu'r newyddion da, ac eraill yn fugeiliaid ac athrawon.

12. Maen nhw i alluogi pobl Dduw i gyd i'w wasanaethu mewn gwahanol ffyrdd, er mwyn gweld corff y Meseia, sef yr eglwys, yn tyfu'n gryf.

13. Y nod ydy ein bod ni'n ymddiried ym Mab Duw gyda'n gilydd ac yn dod i'w nabod yn well. Bryd hynny bydd yr eglwys fel oedolyn aeddfed yn adlewyrchu beth welwn ni yn y Meseia ei hun.

14. Dim plantos bach fyddwn ni, yn cael ein taflu yn ôl ac ymlaen gan y tonnau, a'n chwythu yma ac acw gan bob awel sy'n dod heibio. Fyddwn ni ddim yn newid ein meddyliau bob tro mae rhywun yn dweud rhywbeth newydd, neu'n cael ein twyllo gan bobl slei sy'n gwneud i gelwydd swnio fel petai'n wir.

15. Na, wrth gyhoeddi beth sy'n wir mewn cariad, byddwn ni'n tyfu'n debycach bob dydd i'r Pen, sef y Meseia.

16. Y pen sy'n gwneud i'r corff weithio a thyfu. Fel mae pob rhan o'r corff wedi ei weu i'w gilydd, a'r gewynnau'n dal y cwbl gyda'i gilydd, mae'r eglwys yn tyfu ac yn cryfhau mewn cariad wrth i bob rhan wneud ei gwaith.

17. Felly gyda'r awdurdod mae'r Arglwydd ei hun wedi ei roi i mi, dw i'n dweud wrthoch chi, ac yn mynnu hyn: peidiwch byw fel mae'r paganiaid di-gred yn byw. Dyn nhw'n deall dim –

18. maen nhw yn y tywyllwch! Maen nhw wedi eu gwahanu oddi wrth y bywyd sydd gan Dduw i'w gynnig am eu bod nhw'n gwrthod gwrando. Maen nhw'n ystyfnig!

19. Does dim byd yn codi cywilydd arnyn nhw. Dyn nhw'n gwneud dim byd ond byw'n anfoesol a gadael i'w chwantau mochaidd gael penrhyddid llwyr. Ac maen nhw eisiau mwy a mwy drwy'r adeg.

Darllenwch bennod gyflawn Effesiaid 4