Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6

Hen Destament

Testament Newydd

Effesiaid 4 beibl.net 2015 (BNET)

Undod corff y Meseia

1. Felly, dyma fi yn garcharor am wasanaethu'r Arglwydd. Dw i'n pwyso arnoch chi i fyw fel y dylai pobl mae Duw wedi eu galw i berthyn iddo fyw.

2. Byddwch yn ostyngedig ac addfwyn bob amser; byddwch yn amyneddgar, a goddef beiau eich gilydd mewn cariad.

3. Gwnewch eich gorau glas i ddangos bod yr Ysbryd Glân wedi eich gwneud chi'n un, a'i fod yn eich clymu chi gyda'ch gilydd mewn heddwch.

4. Gan mai'r un Ysbryd Glân sydd gynnon ni, dŷn ni'n un corff – a dych chi wedi'ch galw gan Dduw i rannu'r un gobaith.

5. Does ond un Arglwydd, un ffydd, un bedydd,

6. a dim ond un Duw a Thad i bawb. Y Duw sy'n teyrnasu dros bopeth, ac sy'n gweithio drwy bob un ac ym mhob un!

7. Ond mae'r Meseia wedi rhannu ei roddion i bob un ohonon ni – a fe sydd wedi dewis beth i'w roi i bawb.

8. Dyna pam mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Pan aeth i fyny i'r uchelder arweiniodd gaethion ar ei ôl a rhannu rhoddion i bobl.”

9. (Beth mae “aeth i fyny” yn ei olygu oni bai ei fod hefyd wedi dod i lawr i'r byd daearol?

10. A'r un ddaeth i lawr ydy'r union un aeth i fyny i'r man uchaf yn y nefoedd, er mwyn i'w lywodraeth lenwi'r bydysawd cyfan).

11. A dyma'i roddion: mae wedi penodi rhai i fod yn gynrychiolwyr personol iddo, eraill i fod yn broffwydi, eraill yn rhai sy'n rhannu'r newyddion da, ac eraill yn fugeiliaid ac athrawon.

12. Maen nhw i alluogi pobl Dduw i gyd i'w wasanaethu mewn gwahanol ffyrdd, er mwyn gweld corff y Meseia, sef yr eglwys, yn tyfu'n gryf.

13. Y nod ydy ein bod ni'n ymddiried ym Mab Duw gyda'n gilydd ac yn dod i'w nabod yn well. Bryd hynny bydd yr eglwys fel oedolyn aeddfed yn adlewyrchu beth welwn ni yn y Meseia ei hun.

14. Dim plantos bach fyddwn ni, yn cael ein taflu yn ôl ac ymlaen gan y tonnau, a'n chwythu yma ac acw gan bob awel sy'n dod heibio. Fyddwn ni ddim yn newid ein meddyliau bob tro mae rhywun yn dweud rhywbeth newydd, neu'n cael ein twyllo gan bobl slei sy'n gwneud i gelwydd swnio fel petai'n wir.

15. Na, wrth gyhoeddi beth sy'n wir mewn cariad, byddwn ni'n tyfu'n debycach bob dydd i'r Pen, sef y Meseia.

16. Y pen sy'n gwneud i'r corff weithio a thyfu. Fel mae pob rhan o'r corff wedi ei weu i'w gilydd, a'r gewynnau'n dal y cwbl gyda'i gilydd, mae'r eglwys yn tyfu ac yn cryfhau mewn cariad wrth i bob rhan wneud ei gwaith.

Y bywyd newydd

17. Felly gyda'r awdurdod mae'r Arglwydd ei hun wedi ei roi i mi, dw i'n dweud wrthoch chi, ac yn mynnu hyn: peidiwch byw fel mae'r paganiaid di-gred yn byw. Dyn nhw'n deall dim –

18. maen nhw yn y tywyllwch! Maen nhw wedi eu gwahanu oddi wrth y bywyd sydd gan Dduw i'w gynnig am eu bod nhw'n gwrthod gwrando. Maen nhw'n ystyfnig!

19. Does dim byd yn codi cywilydd arnyn nhw. Dyn nhw'n gwneud dim byd ond byw'n anfoesol a gadael i'w chwantau mochaidd gael penrhyddid llwyr. Ac maen nhw eisiau mwy a mwy drwy'r adeg.

20. Dim felly dych chi wedi dysgu byw wrth edrych ar y Meseia –

21. os mai fe ydy'r un dych chi wedi eich dysgu i'w ddilyn. Yn Iesu mae dod o hyd i'r gwir.

22. Felly rhaid i chi gael gwared â'r hen ffordd o wneud pethau – y bywyd sydd wedi ei lygru gan chwantau twyllodrus.

23. Rhaid i chi feithrin ffordd newydd o feddwl.

24. Mae fel gwisgo natur o fath newydd – natur sydd wedi ei fodelu ar gymeriad Duw ei hun, yn gyfiawn a glân.

25. Felly dim mwy o gelwydd! “Dwedwch y gwir wrth eich gilydd”, am ein bod ni'n perthyn i'r un corff.

26. “Peidiwch pechu pan dych chi wedi digio” – gwnewch yn siŵr eich bod chi ddim yn dal yn ddig ar ddiwedd y dydd.

27. Peidiwch rhoi cyfle i'r diafol a'i driciau!

28. Rhaid i'r person oedd yn arfer bod yn lleidr stopio dwyn. Dylai weithio, ac ennill bywoliaeth, fel bod ganddo rywbeth i'w rannu gyda phobl mewn angen.

29. Peidiwch defnyddio iaith aflan. Dylech ddweud pethau sy'n helpu pobl eraill – pethau sy'n bendithio'r rhai sy'n eich clywed chi.

30. Peidiwch brifo teimladau Ysbryd Glân Duw. Yr Ysbryd ydy'r sêl sy'n eich marcio chi fel rhai fydd yn cael rhyddid llwyr ar y diwrnod hwnnw pan fydd y Meseia Iesu yn dod yn ôl.

31. Rhaid i chi beidio bod yn chwerw, peidio colli tymer a gwylltio, codi twrw, hel straeon cas, a bod yn faleisus.

32. Eich lle chi ydy bod yn garedig, yn dyner gyda'ch gilydd, a maddau i'ch gilydd fel mae Duw wedi maddau i chi drwy beth wnaeth y Meseia.